DROS y ddwy flynedd ddiwethaf, mae teuluoedd ledled y wlad wedi cael eu taro’n galed gan effaith y pandemig.
Gyda phobl yn methu â gweld anwyliaid, ysgolion yn cau a llinellau cymorth yn anodd eu cyrchu, mae cymunedau ledled Cymru wedi dod o hyd i ffyrdd eraill o gefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae hyn hyd yn oed yn fwy gwir am deuluoedd sy’n maethu.
Mae llawer wedi defnyddio’r cyfnod anodd hwn fel cyfle i greu ‘normal newydd’ fwy cadarnhaol – nid yn unig yn eu bywydau ond ym mywydau plant lleol. Yn ôl Maethu Cymru, dechreuodd dros 350 o deuluoedd yng Nghymru faethu gyda’u hawdurdod lleol yn ystod pandemig Covid-19.
Yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth (9 – 22 Mai,) mae Maethu Cymru am ddathlu’r gwahaniaeth y mae gofalwyr maeth wedi’i wneud i fywydau plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. O ofalwyr maeth sydd wedi dangos ymroddiad dros nifer o flynyddoedd i’r rhai sydd newydd ddechrau eu taith faethu i helpu i roi dyfodol gwell i blant.
Pythefnos Gofal Maeth yw ymgyrch codi ymwybyddiaeth o faethu mwyaf y DU a ddarperir gan elusen faethu flaenllaw – Y Rhwydwaith Maethu. Thema eleni yw ‘maethu cymunedau’ a bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar ymrwymiad, angerdd ac ymroddiad gofalwyr maeth.
Mae’n gobeithio taflu goleuni ar y ffyrdd niferus y mae pobl yn y gymuned faethu wedi cefnogi ei gilydd yn ystod pandemig Covid-19 – ac i dynnu sylw at yr angen am fwy o ofalwyr maeth ymroddedig.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn un o 22 o dimau awdurdodau lleol yng Nghymru, sy’n gweithio gyda’i gilydd fel Maethu Cymru, rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu dielw.
Mae Maethu Cymru am annog mwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth ar gyfer eu hawdurdod lleol, fel y gall plant aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a’u teulu ac aros yn eu hysgol. Gall hyn helpu plant a phobl ifanc i gadw eu synnwyr o hunaniaeth yn ystod cyfnod sydd fel arall yn un o aflonyddwch.
Meddai Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol:
“Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli mai eich awdurdod lleol chi, a’ch cyngor lleol, sy’n gofalu am blant pan fydd eu teulu’n profi anawsterau neu pan fo plant yn byw mewn amgylcheddau o gam-drin ac esgeuluso. Eich awdurdod lleol chi sy’n dod o hyd i le diogel iddynt ac yn gyfrifol amdanynt.
“Mae yna gyfoeth o wybodaeth yn nhîm maethu awdurdodau lleol Maethu Cymru, a gweithwyr cymdeithasol ymroddedig sydd i gyd yn gweithio gyda theuluoedd lleol ac ysgolion lleol i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol.
“Drwy faethu’n lleol, rydych chi’n helpu plant i aros yn eu cymuned, gyda’r amgylchoedd, acen, ysgol, iaith, ffrindiau a gweithgareddau maen nhw’n eu hadnabod. Mae’n golygu eu bod nhw’n teimlo’n rhan o rywbeth ac yn adeiladu ar sefydlogrwydd a hyder.
“Byddem yn annog pobl nid yn unig i faethu, ond i faethu gyda’u hawdurdod lleol, sy’n rhan o Faethu Cymru, sefydliad dielw sy’n gyfrifol am y plant yn ein gofal.”
Dau o’n gofalwyr maeth a benderfynodd agor eu calonnau a’u cartref i ofalu am blant a phobl ifanc yn y 12 mis diwethaf yw Kate a Lisa.
Daeth Kate a Lisa yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Wrecsam ym mis Awst 2021.
“Dechreuon ni ein cais i Faethu yn 2019 a symud ymlaen â’n hyfforddiant drwy gydol y cyfnod clo. Fe wnaethom gyfarfod ag eraill ar Teams a dod yn ofalwyr maeth yn 2021.
Roeddem am gefnogi mwy o blant yn ein teulu gan nad oeddem yn gallu mentro cael mwy o’n rhai ein hunain oherwydd pryderon iechyd.
Rydym wedi cefnogi 2 o blant ers i ni ddechrau, gan ein gwneud yn dîm o 6.
Aethom allan a phrynu car 7 sedd y diwrnod ar ôl iddyn nhw gyrraedd am £400. Y bws rydyn ni’n ei alw, ac rydyn ni’n ei ddefnyddio ar gyfer ein holl dripiau gyda’n gilydd. Gwnaeth pethau’n llawer haws.
Bu’n broses ddysgu aruthrol i ni, ceisio jyglo popeth. Yn union fel y disgwyl. Mae’r boddhad yn wych ac yn ddiddiwedd. Mae wedi bod yn fraint i’r ddau ohonom weld y plant yn magu hyder a hunan-barch.
Mae’r gefnogaeth gan ein Uwch Weithiwr Cefnogi wedi bod yn wych. Am dîm anhygoel, ymroddedig, tosturiol. Hebddyn nhw, rwy’n meddwl y byddai ein taith wedi bod yn wahanol iawn i’r pwynt hwn. Roeddem wrth ein bodd yn eu cyfarfod wyneb yn wyneb wrth i gyfyngiadau godi, a buom mewn digwyddiadau pwrpasol yn Erddig gyda chefnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer gofalwyr maeth yn Wrecsam. Mynediad personol i gael gweld Siôn Corn, Elsa o Frozen a’r Bwni Pasg.
Mae rhai dyddiau’n llawn hwyl, mae rhai yn greadigol, mae rhai yn straen, mae rhai yn flinedig, ac eraill yn ostyngedig. Mae gwyrthiau’n digwydd ar rai dyddiau o ystyried yr anawsterau a’r straen gwahanu y mae’r plant hyn yn eu hwynebu.
Mor anhygoel yw bod yn rhan o’r daith honno, darparu diogelwch, cynhesrwydd, cyfleoedd chwarae a bwyd, y pethau sylfaenol sy’n eu galluogi i ffynnu.
Nid i’r gwangalon ond yn sicr mae wedi bod yn bopeth roeddem yn ei ddisgwyl a mwy.”
Yn y cyfamser mae Lynne yn ofalwr maeth profiadol gyda Maethu Cymru Wrecsam ers dros 10 mlynedd.
“Y cnoc chwerw felys ar eich drws pan roddir bywyd newydd yn eich dwylo, eich cyffro a’ch cynllwyn chi yn erbyn eu hofn, eu gofid a’u dryswch’ wrth i fywyd Gofalwr Maeth a Phlentyn Maeth ddod at ei gilydd ar daith newydd.
Boed y daith honno am ddyddiau, wythnosau, misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd, mae bod yn ofalwr Maeth yn rôl arbennig iawn yr ydym yn ei chwarae ym mywydau plant.
Plant sydd am ba bynnag reswm, yn methu byw gyda’u teulu eu hunain ar hyn o bryd.
Mae rhai gwobrau yn anweledig ac yn ddiddiwedd, dyma’r eiliadau tawel hynny pan fyddwch chi’n gweld y cyflawniadau lleiaf ym mywyd plentyn, ond mae’r ddau ohonoch yn gwybod ei bod hi’n foment anhygoel. Yna rydych chi’n gwybod ei fod wedi bod yn werth chweil.
Rydyn ni’n hoffi bod y teulu sy’n cerdded y ‘llwybr ansicr’. Efallai y bydd ein huchafbwyntiau’n wahanol i uchafbwyntiau teuluoedd eraill, a’n hisafbwyntiau yn sicr yn wahanol i lawer o deuluoedd. Ond rydyn ni’n cerdded y llwybr gyda’n gilydd ac rydyn ni’n falch o’n huned deuluol, uned sy’n newid o bryd i’w gilydd wrth i blant fynd a dod, ond mae sylfeini diogelwch yn parhau’n ddiysgog.”
I weld sut y gallwch chi faethu yn Wrecsam ewch i www.wrecsam.maethucymru.llyw.cymru