Order and Collect

Mae’r Reading Agency a BBC Arts wedi cyhoeddi eu rhestr Big Jubilee Read, ymgyrch darllen er pleser sy’n dathlu darlleniadau gwych o bob rhan o’r Gymanwlad i gyd-fynd â Jiwbilî Ei Mawrhydi y Frenhines.

Mae panel arbenigol o lyfrgellwyr, llyfrwerthwyr ac arbenigwyr llenyddiaeth wedi dewis saithdeg o deitlau o restr hir “dewis darllenwyr” gyda deg llyfr ar gyfer pob degawd o deyrnasiad Ei Mawrhydi y Frenhines. 

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae’r rhestr yn cynnig ysgrifennu gwych, hardd a gwefreiddiol a gynhyrchwyd gan awduron o ystod eang o wledydd y Gymanwlad dros y saithdeg mlynedd diwethaf i ennyn diddordeb yr holl ddarllenwyr yn y gwaith o ddarganfod a dathlu llyfrau gwych.

Bydd rhaglenni hefyd yn adlewyrchu Big Jubilee Read ar draws y BBC.

Bydd copïau ar gael o’ch llyfrgell leol.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH