Dydd Iau 31 Awst byddwn yn cefnogi Diwrnod y Llynges Fasnach drwy chwifio’r Lluman Coch i anrhydeddu’r dynion a’r merched dewr a wasanaethodd yn y Llynges Fasnach yn ystod y ddau ryfel byd, a’r rhai sydd yn parhau i wasanaethu er mwyn sicrhau bod gennym ni gyflenwadau i gynnal ein gwlad.
Dioddefodd y Llynges Fasnachol ei golledion cyntaf un yn yr ail ryfel byd pan gafodd llong fasnach yr S.S. Athenia ei suddo â thorpido gan golli 128 o deithwyr a chriw, oriau yn unig ar ôl datgan rhyfel.
Ers hynny, cydnabyddir y 3ydd o Fedi fel Diwrnod y Llynges Fasnach.
Fel ynys mae’r DU yn dibynnu ar y morwyr yma ar gyfer 90% o’n mewnforion, yn cynnwys hanner y bwyd rydym ni’n ei fwyta. Mae gan y DU y diwydiant porthladdoedd mwyaf yn Ewrop. Mae 75% o’n hallforion (yn ôl cyfaint) yn cael eu cludo mewn llongau o borthladdoedd y DU, ac mae rhai ohonynt yn cefnogi’r ymgyrch drwy annog llongau sy’n ymweld i ganu corn am 10am ar 3 Medi.
Meddai’r Cyng. Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae’n bwysig cydnabod gwasanaeth ffyddlon a thalu teyrnged i bawb sydd wedi neu yn gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol – mae eu gwaith yn gwneud cyfraniad aruthrol at les ac economi ein gwlad. Ar ran Cyngor Wrecsam, Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.”
Beth ydi’r Llynges Fasnachol?
Cafodd y Llynges Fasnachol, neu’r Fflyd Fasnachol gynt, y teitl yma gan Frenin Siôr V ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf i gydnabod cyfraniad ac aberth y morwyr masnachol yn ystod y rhyfel.
Mae’r Llynges Fasnachol Brydeinig yn cynnwys y llongau masnachol sy’n cludo cargo a phobl yn ystod cyfnodau o heddwch a rhyfel.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Eisteddfod 2025 I’w Chynnal yn Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch