Mae gwaith adfer yn mynd rhagddo ym Mangor Is-Coed ar ôl i’r pentref ddioddef llifogydd yn ystod Storm Christoph.
Yn dilyn glaw llifeiriol a lefelau afon digynsail, cyhoeddwyd Rhybudd Llifogydd Difrifol yn ystod oriau mân bore Iau (21 Ionawr), a bu’n rhaid symud nifer o breswylwyr o’u cartrefi.
Yn gynharach heddiw, aeth cynrychiolwyr o Gyngor Wrecsam, cynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru, a rhai o Weinidogion Llywodraeth Cymru, i weld y gwaith adfer yn y pentref wrth i dimau amgylchedd y Cyngor ac asiantaethau cysylltiedig weithio i glirio a helpu’r pentref i gael ei draed dano.
Dywedodd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Hoffwn ddiolch o galon unwaith eto i bawb a fu’n ymateb i’r llifogydd ym Mangor Is-Coed a gweddill y fwrdeistref sirol yr wythnos hon.
“Mae wardeiniaid llifogydd, gwirfoddolwyr 4×4, gweithwyr y cyngor, y gwasanaethau brys, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill wedi gweithio oriau hir drwy gydol y nos er mwyn cadw pobl yn ddiogel – a hynny pan ydym yng nghanol pandemig hefyd.
“Mae pobl Bangor Is-Coed wedi bod yn gwbl anhunanol yn ystod yr argyfwng hwn, ac maent yn eu hailgodi’u hunain gyda chymorth y Cyngor a phartneriaid eraill.
“Mae wedi bod yn gyfnod anodd, ond rwy’n hynod falch o’n holl gymunedau ar draws Wrecsam.”
Diolchodd Lesley Griffiths, Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru i’r awdurdodau lleol, yr asiantaethau, y gwirfoddolwyr a’r gwasanaethau brys a fu’n ymateb i Storm Christoph dros y dyddiau diwethaf.
Dywedodd: “Mae ymdrechion cydweithredol sefydliadau a gwasanaethau ar draws y wlad, y bu llawer ohonynt yn gweithio dros nos er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, wedi bod yn wirioneddol arbennig.
“Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid yn yr awdurdod lleol i gynnig taliadau cefnogi o £500 a £1,000 i’r bobl hynny a ddioddefodd lifogydd yn eu cartrefi.”
Daeth Simon Baynes, AS De Clwyd, i ymweld â’r pentref yn ystod y dydd, yn ogystal â’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, ynghyd â’r cynghorydd lleol, Rodney Skelland.
Meddai’r Cynghorydd Bithell: “Mae gwaith clirio’n mynd rhagddo ym Mangor Is-Coed i helpu’r gymuned i gael ei thraed dani unwaith eto.
“Mae’r afon yn uchel iawn o hyd, ac mae sawl ffordd yn dal yn anaddas i draffig, ond mae timau adfer y Cyngor yn gweithio’n galed gyda phartneriaid, ac mae’r trigolion yn dangos gwytnwch eithriadol.
“Byddwn yn parhau i weithio’n galed i gael popeth yn ôl i drefn yn y pentref wrth i lefelau’r dŵr barhau i ostwng, gobeithio, a byddwn hefyd yn rhoi sylw i’r llifogydd yn Nyffryn Dyfrdwy Isaf a rhannau eraill y fwrdeistref sirol.
“Byddwn hefyd yn edrych ar y ffyrdd sy’n dod i mewn i Fangor Is-Coed a byddwn yn gwneud penderfyniad ynghylch y rhain yn ystod y 48 awr nesaf.
“Atgoffir gyrwyr i ufuddhau i arwyddion sy’n dweud bod ffyrdd ar gau am fod dŵr yn dal ar wyneb y ffordd.”