Mae’r cyrsiau sgiliau adeiladu traddodiadol wedi’u trefnu gan Raglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam ac fe’u cynhelir ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria. Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim, trwy Gyngor Wrecsam.
Mae’r myfyriwr plastro, Wesley Jackson, wedi mynychu nifer o’r cyrsiau Sgiliau Adeiladu Traddodiadol er mwyn uwchsgilio a dysgu mwy am ddulliau adeiladu traddodiadol.
Mae Wesley wedi dangos diddordeb arbennig mewn dysgu mwy am yr amrywiaeth eang o ddulliau o weithio gyda chalch. Dywedodd “Roedd llawer o wybodaeth wedi’i chynnwys yn y cyrsiau ac fe’n hanogwyd i ofyn llawer o gwestiynau. Rwyf wedi bod yn defnyddio’r sgiliau a ddysgais ar y cwrs yn barod.”
Roedd gwybodaeth a brwdfrydedd Wesley wedi creu argraff ar Ned Sharer, un o hyfforddwyr y cwrs, ac ers hynny mae wedi cynnig prentisiaeth iddo.
Dywedodd Chad Davies, darlithydd yng Ngholeg Cambria sy’n gweithio gyda’r Tîm Sgiliau Adeiladu Traddodiadol: “Mae’r cyrsiau’n rhoi pwyslais ar adeiladau cyn 1919. Mae’r cyrsiau’n amrywiol ac maen nhw’n seiliedig ar ddulliau adeiladu traddodiadol, sy’n amrywio o forteri calch cymysg poeth uwch, bosio plwm, gwaith gosod to a thanio, paent traddodiadol, lleithder mewn hen adeiladau, gan gynnwys prisio gwaith cadwraeth, yn ogystal â chyrsiau achrededig fel Dyfarniad Lefel 3 mewn Ynni ac effeithlonrwydd.”
Dywedodd Janine Beggan, sy’n rhedeg y rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol: “Gyda’n cyrsiau sgiliau adeiladu traddodiadol, rydym yn ceisio cynyddu set sgiliau gweithwyr yn y diwydiant hwn yn lleol, yn enwedig yma yng Ngogledd Cymru, lle mae prinder yn y gweithlu adeiladu crefftus. Mae’r diwydiant yn brysur ar hyn o bryd, a hoffem weld mwy o blastrwyr a gweithwyr adeiladu, fydd yn dysgu’r sgiliau traddodiadol hyn a fydd yn arwain at ragor o gyfleoedd am waith a gweithlu wedi uwchsgilio, gobeithio.”
“Caiff cyrsiau eu rhedeg trwy gydol y flwyddyn, felly cadwch lygad ar eu cynnwys a’u dyddiadau.”
Y cyrsiau diweddaraf sydd ar gael dros y misoedd nesaf yw:
- Lleithder mewn hen adeiladau 23 Gorffennaf
- Prisio Cadwraeth 9 Awst
- Dyfarniad Lefel 3 Achrededig mewn Ynni ac effeithlonrwydd 29 a 30 Gorffennaf
I gael rhagor o wybodaeth am raglenni Sgiliau Adeiladu Traddodiadol gyda Chyngor Wrecsam, gallwch gysylltu â’r tîm Sgiliau Adeiladu Traddodiadol dros e-bost: TBS@Wrexham.gov.uk.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn arian gan Asiantaeth Datblygu Gwledig Cadwyn Clwyd drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN