Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynlluniau grant newydd yn targedu cwmnïau gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint a Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cynlluniau grant newydd yn targedu cwmnïau gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Cynlluniau grant newydd yn targedu cwmnïau gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint a Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 2, 2026 10:43 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Advanced manufacturing
RHANNU

Mae dau gynllun grant gwerth miliynau o bunnoedd yn cael eu lansio yn Sir y Fflint a Wrecsam heddiw – gan roi hwb i gyfnod newydd cyffrous ar gyfer gweithgynhyrchu datblygedig yn y rhanbarth.

Wedi’u hanelu at fentrau bach a chanolig (BBaChau), mae’r cynlluniau wedi’u creu i gynyddu twf busnesau. Maent yn rhan o Barth Buddsoddi newydd Sir y Fflint a Wrecsam, sy’n cael ei gefnogi gan lywodraethau’r DU a Chymru, a’i gydlynu gan Uchelgais Gogledd Cymru.

Bydd cynlluniau Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Wrecsam yn cynnig grantiau o £5k hyd at £100k (o leiaf 30% wedi’i ariannu gan bob cwmni) i gwmnïau gweithgynhyrchu lleol yn eu hardal awdurdod lleol.

Bydd busnesau’n gallu gwneud cais o ddydd Llun, Chwefror 2 a byddant yn gallu defnyddio’r arian ar gyfer:

  • Prynu offer cyfalaf i wella galluoedd gweithgynhyrchu.
  • Achredu ac ardystio i wella cyfleoedd cadwyn gyflenwi, gwell trosiant a thwf.
  • Addasiadau eiddo ac addasiadau safle gwyrdd i ganiatáu i fusnesau drosglwyddo i weithrediadau mwy cynaliadwy.

Gyda’i gilydd, bydd y cynlluniau yn dyrannu £6m mewn grantiau dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Parth Buddsoddi yn gam hynod gadarnhaol i Sir y Fflint a Wrecsam, a bydd yn rhoi llwyfan i ni ddenu buddsoddiad newydd i’r rhanbarth – gan helpu i greu swyddi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnesau a gweithwyr medrus.

“Mae lansio’r grantiau hyn yn dangos y math o gyfleoedd y bydd y Parth Buddsoddi yn eu cyflwyno, ac rwy’n gobeithio y bydd cymaint o fusnesau lleol â phosibl yn gwneud cais.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, a Chadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru: “Mae’r sector gweithgynhyrchu datblygedig yn hanfodol i’n heconomi, ac mae llawer o weithgynhyrchwyr o’r radd flaenaf eisoes wedi’u lleoli yma.

“Mae angen i ni nawr adeiladu ar hyn a dangos ein bod yn bwerdy gwirioneddol ar gyfer uwch-ddiwydiannau yng Nghymru, ac rwy’n gobeithio y bydd cwmnïau lleol yn manteisio ar y grantiau hyn. Mae hwn yn gyfle euraidd i’r sector.”

Mae busnesau bach a chanolig yn cael eu diffinio fel busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr ac er bod y rhanbarth yn gartref i nifer o gwmnïau byd-eang mawr, mae busnesau bach a chanolig yn cyfrif am 97.4% o’r holl fusnesau yn Sir y Fflint a Wrecsam.

O ganlyniad, mae busnesau bach a chanolig yn cael eu hystyried yn hanfodol i dwf y sector gweithgynhyrchu datblygedig yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Rhagor o wybodaeth…

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Sir y Fflint, ewch i wefan Cyngor Sir y Fflint.

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Wrecsam, ewch i wefan Cyngor Wrecsam.

Rhannu
Erthygl flaenorol Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf… Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Erthygl nesaf Wrexham cemetery Datgelu cyfrinachau o’r tu hwnt i’r bedd ar deithiau cerdded yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English