Mae’n bleser gennym allu cynnig rhagor o hyfforddiant sgiliau adeiladu traddodiadol fel rhan o’n rhaglen i alluogi cyflogwyr a gweithwyr lleol i chwarae rhan fawr mewn diogelu ac adfer treftadaeth ardal gadwraeth ein canol tref
Mae’r cyrsiau sydd ar gael yn rhad ac am ddim a byddant yn cael eu cynnal yn safle Ffordd y Bers Coleg Cambria.
Prisio cadwraeth: 21 Hydref 2021
Rhoi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut i gyfrifo costau wrth gynhyrchu dyfynbrisiau / tendrau ar gyfer gwaith ar Adeiladau Traddodiadol (CYN 1919).
Cwrs atgyweirio gwydr a ffenestri: 22 Hydref 2021
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â phydredd pren ac atgyweiriadau cysylltiedig â gwydr ac amnewid, technegau sbleisio cymeradwy, glud, gosodiadau, pwti addas ar gyfer ailwydro, a defnyddio ffitiadau nad ydynt yn fferig.
Gwaith cerrig a glanhau: 29 Hydref 2021
Mae’r cwrs hwn yn darparu cymysgedd o ddealltwriaeth ymarferol a theoretig o waith cerrig gan gynnwys atebion arfer orau ar gyfer glanhau, paratoi cerrig ac ôl-ofal.
COs oes gennych ddiddordeb mewn mynychu unrhyw un o’r cyrsiau uchod cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Adeiladu Traddodiadol: TBS@Wrexham.gov.uk
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae’r adeiladau yn Ardal Gadwraeth Canol y Dref yn asedau blaenllaw a gwerthfawr yn ein tref. Rydym eisiau sicrhau bod y dulliau a fydd yn cael eu defnyddio i adfywio’r adeiladau hyn yn cyd-fynd â’r sgiliau traddodiadol a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu yn y lle cyntaf.
“Mae’r cyrsiau wedi cael derbyniad da o’r dechrau ac wedi’u croesawu’n arbennig gan gyflogwyr a gweithwyr sydd eisiau chwarae eu rhan mewn adfer ein treftadaeth yng nghanol y dref.”
Edrychwch isod ar rai o’r adeiladau hanesyddol a hardd sydd gennym yn ardal gadwraeth canol y dref i ofalu amdanynt ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Darperir y cyrsiau’n rhad ac am ddim drwy Raglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn arian gan Asiantaeth Datblygu Gwledig Cadwyn Clwyd drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL