Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n gallu cynnig man cynnes?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ydych chi’n gallu cynnig man cynnes?
Pobl a lleY cyngor

Ydych chi’n gallu cynnig man cynnes?

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 24, 2025 2:07 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
warm places
RHANNU

Ydych chi’n rhan o grŵp neu sefydliad cymunedol a allai gynnig lle cynnes i unigolion neu deuluoedd sy’n agored i niwed?

Cynnwys
  • Beth fydd y cyllid yn ei gynnwys?
  • Beth sy’n digwydd mewn llyfrgelloedd?
  • Beth sy’n digwydd yn yr Hwb Lles?

Mae Cyngor Wrecsam wedi derbyn cyllid o £64,000, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi holl lyfrgelloedd Wrecsam (a’r Hwb Lles) i gynnig mannau cynnes, yn ogystal â chynllun grantiau bach i sefydliadau a grwpiau wneud cais am hyd at £5,000.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais, ar wefan y Cyngor. Lleoedd Cynnes Wrecsam | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Beth fydd y cyllid yn ei gynnwys?

Bydd ceisiadau llwyddiannus am gyllid yn dibynnu ar yr hyn y gallwch chi ei gynnig. Er enghraifft, bydd mwy o gyllid ar gael os ydych chi’n gallu cynnig prydau poeth a gweithgareddau.

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, is-gadeirydd y gweithgor aelodau a swyddogion ar gyfer costau byw: “Bydd tywydd oerach yn dod cyn bo hir, a bydd mannau cynnes yn cael eu gwerthfawrogi fwyfwy gan drigolion fel rhywle croesawgar i fynd iddynt. Os ydych chi’n grŵp neu sefydliad yn Wrecsam, ystyriwch wneud cais am y grant i wneud bywyd ychydig yn haws i bobl yn eich cymuned.”

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr aelod arweiniol sy’n gyfrifol am wrth-dlodi: “Gall grwpiau a sefydliadau cymunedol yn Wrecsam chwarae rhan mor bwysig wrth sicrhau bod digon o leoedd ar draws y fwrdeistref sirol lle gall pobl gadw’n gynnes. Os yw unrhyw sefydliad neu grŵp cymunedol yn gallu cynnig lle cynnes y gaeaf hwn, rydyn ni am glywed gennych chi.”

Beth sy’n digwydd mewn llyfrgelloedd?

Bydd llyfrgelloedd yn cynnig mynediad at ddiodydd poeth hunanwasanaeth a, p’un a ydych chi’n ymwelydd rheolaidd neu newydd â’r llyfrgell, byddwch chi’n gallu cael mynediad at:

  • Wi-Fi
  • Cyfrifiaduron
  • Papur newydd dyddiol
  • Llyfrau ffuglen a gwybodaeth
  • Gweithgareddau a digwyddiadau yn y llyfrgell, mae’r mwyafrif am ddim

I gael gwybod pryd mae llyfrgelloedd Wrecsam ar agor, ewch i’r dudalen llyfrgelloedd lleol ar wefan y Cyngor.

Beth sy’n digwydd yn yr Hwb Lles?

Bydd yr Hwb Lles hefyd yn cynnig lle cynnes a bydd yn defnyddio’r cyllid i gynnig te, coffi a siocled poeth i unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd yn ystod misoedd y gaeaf. Byddwch chi’n gallu cadw’n gynnes wrth eistedd ar y soffa a mwynhau rhai gemau a llyfrau am ddim.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam v oxford Wrecsam v Dinas Caerdydd – gyrru i mewn i Wrecsam? Darllenwch ymlaen…
Erthygl nesaf Mobile phone Pedair gwlad yn uno i eirioli dros moesgarwch mewn bywyd cyhoeddus

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English