Mae’n wythnos arall o addysgu o gartref ac rydym wedi casglu ychydig o awgrymiadau isod ar eich cyfer chi a’ch plentyn i’ch helpu drwy gydol yr wythnos.
Dywedodd Ian Roberts, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar: “Mae’n bwysig eich bod chi a’ch plentyn yn cadw’n iach ac yn gofalu am eich lles emosiynol a meddyliol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym yn gwybod eich bod yn cael hwyl dda ar addysgu o gartref felly daliwch ati ond peidiwch â rhoi eich hunain o dan unrhyw straen ormodol. Diolch i chi gyd am gefnogi eich plant yn eu haddysg yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg: “Diolch i bawb am eich gwaith ardderchog yn addysgu eich plant o gartref. Gwyddwn nad yw’n hawdd ac rydym am i chi wybod ein bod yn gwerthfawrogi pob dim rydych yn ei wneud i gadw eich plentyn yn iach ac wedi eu diddori yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau ar symudhwn. Cofiwch, does dim rhaid cadw at drefn ysgol felly peidiwch â theimlo fel bod rhaid gwneud sesiynau 9am – 3pm gyda’ch plentyn, cymerwch doriad a mwyhewch ddigonedd o weithgareddau anacademaidd gyda’ch plentyn.”
Eisteddfod yr Urdd
Mae dal amser i ymgeisio i gystadlaethau eleni! Cewch ragor o wybodaeth yma.
Sesiynau Bitesize ar gyfer Cymraeg fel ail iaith
Mae gan BBC Bitesize ystod o sesiynau ar sgiliau’r Gymraeg, gan gynnwys siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu, o’r Cyfnod Sylfaen hyd at lefel TGAU
Cyrsiau Ar-lein am Ddim i Drigolion Gogledd Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru / BIBC yn falch o gyhoeddi fod gan staff a rhieni fynediad i gwrs arloesol AR-LEIN am blant, sy’n werth £39, yn rhad ac am ddim.
Mae Understanding Your Child wedi ei roi at ei gilydd gan y Solihull Approach, dull achrededig sy’n seiliedig ar dystiolaeth a sefydlwyd 20 mlynedd yn ôl gan seicolegwyr, ymwelwyr iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Cost arferol y cwrs yw £39 y pen. Fodd bynnag, drwy ddefnyddio’r Cod Mynediad: NWSOL (dilys tan Tachwedd 2022) ar www.inourplace.co.uk gallwch gofrestru am gyfrif eich hun ac ailymweld â’r cwrs dros gyfnod amhenodol heb dalu ceiniog.
Mae Understanding Your Child ar gyfer rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gofalu am blant rhwng 0-18 mlwydd oed. Mae’n edrych ar ddatblygiad yr ymennydd, chwarae, arddulliau o rianta, cysgu, pyliau o dymer ddrwg, cyfathrebu a mwy. Seliwyd ar gwrs wyneb yn wyneb sydd wedi’i ganmol yn genedlaethol a gynigir gan Solihull Approach.
Mae modiwlau 9-11 ac mae pob un yn cymryd tua 20 munud (mae gan y prif sgriniau sain lleisio ddewisol) yn ogystal â gweithgareddau rhyngweithiol, cwisiau, fideos a thaflenni ymarferol.
Dwyieithrwydd Cynnar i’r rhai sy’n ystyried addysg trwy gyfrwng y Gymraeg
Os ydych am i’ch plentyn gael addysg yn y Gymraeg, mae gan Cymraeg i Blant Wrecsam gyngor defnyddiol ar fanteision dwyieithrwydd cynnar i chi:
- Mae’r rhan fwyaf o blant ar draws y byd yn siarad dwy iaith felly’r cynharaf bydd eich plentyn yn clywed y Gymraeg, y gorau
- Mae gan bob plentyn yng Nghymru’r hawl i siarad Cymraeg ac i fanteisio ar y buddion o fod yn ddwyieithog mewn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mae’r Gymraeg yn llai tebygol o gael ei throsglwyddo i blant pan fo dim ond un rhiant yn siarad Cymraeg. Dim ond 45% o’r grŵp yma fydd yn trosglwyddo’r iaith i’w plant.
- Mae trosglwyddiad y Gymraeg o riant i blentyn yn hanfodol ar gyfer parhad y Gymraeg.
Mae ystod o adnoddau a fideos amser stori am ddim hefyd ar gael:
https://www.facebook.com/cymraegiblantwrecsam/
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19