Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 11.5.20
Rhannu
Notification Show More
Latest News
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor
Council Tax
Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Y cyngor Fideo Pobl a lle
20mph
Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya
Y cyngor Pobl a lle
Victorian Market
Marchnad Fictoraidd wedi’i lleihau oherwydd gwyntoedd cryf a ragwelir
Y cyngor Arall
Cyrtiau tennis y Parciau yn agor yn swyddogol yn dilyn gwaith ailwampio 
Cyrtiau tennis y Parciau yn agor yn swyddogol yn dilyn gwaith ailwampio 
Y cyngor Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 11.5.20
Y cyngor

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 11.5.20

Diweddarwyd diwethaf: 2020/05/18 at 11:21 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar y wybodaeth a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Iau (7.5.20).

Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw

  • Nid yw’r neges yng Nghymru wedi newid – aros gartref, diogelu’r GIG, arbed bywydau.
  • Er y gallwch nawr fynd allan i ymarfer mwy nag unwaith y dydd, dylech barhau i ymarfer yn lleol yn unig. Peidiwch â gyrru i’n parciau.
  • Ynghyd â chynghorau eraill yng Nghymru, rydym yn asesu canllawiau newydd gan y llywodraeth yn ofalus ynglŷn ag ailagor canolfannau ailgylchu gwastraff cartref a
    llyfrgelloedd.
  • Os ydych yn parcio eich car ar y stryd, gwnewch yn siŵr bod ein loriau bin yn gallu gyrru heibio.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Mae’r cyngor yn parhau’n glir yng Nghymru – arhoswch gartref

Nid yw’r neges yng Nghymru wedi newid am y tro – aros gartref, arbed bywydau, diogelu’r GIG.

Cynnwys
Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar y wybodaeth a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Iau (7.5.20).Negeseuon allweddol ar gyfer heddiwIan Bancroft – Prif WeithredwrMark Pritchard – Arweinydd y CyngorMae’r cyngor yn parhau’n glir yng Nghymru – arhoswch gartrefBiniau ac ailgylchuCanolfannau Ailgylchu Gwastraff y CartrefParciwch yn ofalus os gwelwch yn ddaLlyfrgelloeddGwaith adeiladu ar eiddo’r cyngorNodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener y byddai’r neges ‘aros gartref’ yn parhau mewn grym yng Nghymru am o leiaf dair wythnos arall.

Roedd Llywodraeth y DU wedi rhannu neges ychydig yn wahanol ddoe – ‘aros yn wyliadwrus’ – gyda phobl yn cael gyrru i fannau eraill i fynd am dro, er enghraifft. Ond bydd hyn ond yn berthnasol yn Lloegr.

Felly…. cadwch bellter cymdeithasol, gwnewch siwrnai sy’n hanfodol yn unig ar gyfer bwyd ac ati, ac ymarfer yn lleol.

Er y gallwch nawr adael eich cartref i ymarfer mwy nag unwaith y dydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir y dylai pobl barhau i ymarfer yn eu hardal leol.

Felly peidiwch â chael eich temtio i neidio i’ch car a gyrru i un o’n parciau os gwelwch yn dda. Nid yw’n parhau yn iawn i wneud hynny.

Aros gartref. Achub bywydau.

Biniau ac ailgylchu

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Ddydd Gwener, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y gall cynghorau ddechrau trefnu i ailagor safleoedd ailgylchu gwastraff cartref.

Rydym yn asesu’r canllawiau newydd yn ofalus ac ynghyd â chynghorau eraill yng Nghymru – byddwn yn edrych ar sut i reoli lefelau staffio a chydymffurfio gyda iechyd a diogelwch, cyn cadarnhau pryd a sut y bydd ein safleoedd yn Wrecsam yn ailagor.

Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi cyn gynted ag y byddwn ni’n gwybod mwy.

Parciwch yn ofalus os gwelwch yn dda

Mae’r Llywodraeth li allan ar eu casgliadau biniau, felly… os ydych chi’n parcio eich car ar y ffordd, sicrhewch eich bod yn gadael digon o le i’n loriau bin allu mynd heibio.

Darllenwch yr erthygl wnaethom ei rhannu’n ddiweddar.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Llyfrgelloedd

Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener y gall cynghorau ddechrau ystyried pa un ai i ailagor llyfrgelloedd.

Eto, rydym yn edrych yn ofalus ar y canllawiau newydd, cyn penderfynu sut i symud ymlaen yn Wrecsam.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â hyn.

Gwaith adeiladu ar eiddo’r cyngor

Mae’n bosibl y byddwch yn gweld contractwyr yn gwneud gwaith adeiladu ar rai o adeiladau’r cyngor yn ystod yr wythnosau nesaf – gan gynnwys ysgolion.

Mae’r Llywodraeth wedi dweud y gall gwaith adeiladu gael ei wneud os cymerir rhagofalon synhwyrol.

Byddwn yn gofyn i’n contractwyr ddilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch caeth tra’n gweithio ar ein heiddo.

Nodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19

Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:

• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth) oddeutu 5pm.
• Datganiadau dyddiol gan Lywodraeth Cymru tua 12.30pm.
• Briff swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 7.5.20

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Karen Evans Prif swyddog newydd i arwain gwasanaethau addysg
Erthygl nesaf home schooling Rhagor o syniadau ar gyfer addysgu o gartref

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor Rhagfyr 6, 2023
Council Tax
Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Y cyngor Fideo Pobl a lle Rhagfyr 6, 2023
20mph
Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya
Y cyngor Pobl a lle Rhagfyr 6, 2023
Victorian Market
Marchnad Fictoraidd wedi’i lleihau oherwydd gwyntoedd cryf a ragwelir
Y cyngor Arall Rhagfyr 6, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Guildhall, Wrexham
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau

Rhagfyr 6, 2023
Council Tax
Y cyngorFideoPobl a lle

Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru

Rhagfyr 6, 2023
20mph
Y cyngorPobl a lle

Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya

Rhagfyr 6, 2023
Victorian Market
Y cyngorArall

Marchnad Fictoraidd wedi’i lleihau oherwydd gwyntoedd cryf a ragwelir

Rhagfyr 6, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English