O ddydd Llun 18 Gorffennaf bydd system un ffordd ar hyd Ffordd Ddyfrllyd a Ffordd Croesnewydd ger Ysbyty Maelor i ganiatáu ar gyfer gwelliannau angenrheidiol i’r arosfannau bysiau ar hyd y llwybr hwn.

Bydd y ffordd yn weithredol un ffordd, o Ffordd Croesnewydd tuag at gylchfan A5152 Ffordd y Bradle. Bydd traffig sy’n dymuno mynd ar hyd Ffordd Croesnewydd o Ffordd Ddyfrllyd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A541 Ffordd yr Wyddgrug a B5101 Ffordd y Bers.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

O ddydd Llun 1 Awst am wythnos, bydd goleuadau traffig dwy ffordd ychwanegol dros dro ar waith ar Ffordd Croesnewydd, wrth gyffordd Gât 1 y brif fynedfa/maes parcio i Ysbyty Maelor.

Disgwylir i’r gwaith bara 3 wythnos.

Mae’r gwaith yn rhan o gynllun gan Lywodraeth Cymru i wella’r Seilwaith ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Traws Cymru. Bydd y gwaith hwn yn caniatáu gwelliannau ar hyd gwasanaethau bws T3 Wrecsam i Abermaw a T12 Wrecsam i Fachynlleth.

Cynghorir modurwyr i gynllunio llwybr arall lle bo modd yn ystod y gwaith, a diolchir iddynt ymlaen llaw am eu cydweithrediad.

Cynghorir y rhai sy’n dymuno defnyddio’r gwasanaethau bws ar hyd y llwybr hwn y bydd arosfannau bysiau dros dro wrth y Groesfan Rheilffordd i’r rhai sy’n gadael yr ysbyty, ac wrth Westy’r Ramada ar gyfer y rhai sy’n ymweld â’r ysbyty.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth Strategol, “Rydym yn gwybod y bydd y gwaith hwn yn achosi anghyfleustra i ddefnyddwyr ffyrdd a bysiau, ond mae’n angenrheidiol a bydd defnyddwyr bysiau yn gweld gwelliannau i’r arosfannau unwaith y byddant wedi’u cwblhau.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH