Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 20 mlynedd o ailgylchu yn Wrecsam – rydym wedi dod yn bell, nawr gadewch i ni fynd ymhellach
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > 20 mlynedd o ailgylchu yn Wrecsam – rydym wedi dod yn bell, nawr gadewch i ni fynd ymhellach
FideoY cyngor

20 mlynedd o ailgylchu yn Wrecsam – rydym wedi dod yn bell, nawr gadewch i ni fynd ymhellach

Diweddarwyd diwethaf: 2022/07/05 at 2:06 PM
Rhannu
Darllen 9 funud
RHANNU

Y mis hwn (Gorffennaf 2022), bydd yn 20 mlynedd ers sefydlu gwasanaeth casglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd yn Wrecsam.

Cynnwys
“Rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i gefnogi pobl”20 her i ddathlu 20 mlyneddSut mae ailgylchu wedi cynyddu dros amserCerrig milltir ailgylchu

Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf rydym wedi dod yn bell i gyrraedd y pwynt lle mae’r rhan fwyaf o’n preswylwyr bellach yn cymryd rhan yn y cynllun ailgylchu, a byddwn yn dathlu’r pen-blwydd arbennig gyda nifer o heriau dros y misoedd nesaf yn ymwneud ag ailgylchu.

Gwyliwch am #Wrecsgylchu20 ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am ein dathliadau diweddaraf!

Ond mae’r 20 mlynedd hefyd yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar sut mae yna lawer mwy i’w wneud, os ydym wirioneddol am chwarae ein rhan i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd byd-eang.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Un o’r deilliannau y cytunwyd arnynt o Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow (COP26) oedd i wledydd gyflymu eu camau yn erbyn yr argyfwng ac rydym angen i bawb yn Wrecsam ein helpu i wneud yn well.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

“Rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i gefnogi pobl”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae 20 mlynedd yn garreg filltir o bwys, ac rydym eisiau diolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed yn y gwasanaeth ailgylchu dros y blynyddoedd. Roedd y gyfradd ailgylchu gyntaf a gofnodwyd yn 3.75% yn 2022, ac roedd y ffigwr blynyddol diweddaraf yn 67.94%, sy’n dangos faint mae’r gwasanaeth wedi datblygu dros amser.

“Mae llawer o bobl sy’n byw yn Wrecsam wedi croesawu ailgylchu fel rhan o’u harferion dyddiol i’n cael i’r lle rydym wedi cyrraedd, ond rydym yn gwybod bod yna lawer o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu a bod gwastraff bwyd yn mynd i’r biniau sbwriel cyffredinol.

“Rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i gefnogi pobl i ailgylchu’n well, drwy addysg a’r gwasanaethau ailgylchu rydym yn eu darparu, ond rydym angen iddynt weithio gyda ni ac ailgylchu cymaint ag y gallan nhw.

“Ein neges i breswylwyr yw y dylem fod yn falch o ba mor bell rydym wedi dod, ond rŵan beth am fwrw ati i wneud hyd yn oed yn well? Mae cydnabod ein bod mewn argyfwng hinsawdd yn fan dechrau i newid ein harferion ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn cefnogi hyn.”

Gallwch ddarllen mwy ar COP26 yma: https://www.un.org/en/climatechange/cop26

20 her i ddathlu 20 mlynedd

Fel rhan o’n dathliadau 20 mlynedd o ailgylchu, dros y 12 mis nesaf byddwn yn gweithio gyda nifer o Eco-Gynghorau yn ysgolion Wrecsam.

Byddwn yn gosod ugain her i ddathlu 20 mlynedd o gasglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd yn Wrecsam, a fydd yn dechrau ym mis Medi! Os ydych yn athro/athrawes, ac mae gan eich ysgol ddiddordeb ymuno â’r her, gellwch gofrestru eich diddordeb drwy e-bostio a Wrexcycle20@wrexham.gov.uk

Bydd yr heriau’n ymwneud â themâu fel lleihau’r defnydd o blastig untro, ailgylchu, compostio ac eco-lapio.

20 mlynedd o ailgylchu yn Wrecsam - rydym wedi dod yn bell, nawr gadewch i ni fynd ymhellach

Sut mae ailgylchu wedi cynyddu dros amser

Fel y crybwyllodd y Cynghorydd Jones, yn 2002, ein ffigwr ailgylchu cyntaf oedd 3.75%, a gynyddodd y flwyddyn ganlynol i 10.51%.

Parhaodd ein ffigyrau ailgylchu i godi’n gyson dros y blynyddoedd wedyn gan gyrraedd 18.41% yn 2006, cyn y daeth cynnydd mawr yn 2007 pan gyrhaeddwyd 30.09%.

Yn 2010 pasiwyd y nod 40% (41.86%), ac yn 2013 aethom yn uwch na 50% (52.83%).

Pasiwyd 60% yn 2016 (62.29%), ac mae’r ffigwr blynyddol diweddaraf, 2022, yn 67.94%, sy’n cyfeirio at y cyfnod Ebrill 2021 i Ebrill 2022.

Cerrig milltir ailgylchu

Ar 1 Gorffennaf 2002, treialwyd ein cynllun cyntaf o gasglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd a gwastraff gardd gydag oddeutu 6,000 o eiddo yn Wrecsam. Pwy sy’n cofio’r sachau pinc a gwyrdd a ddefnyddiwyd gyntaf gennym ar gyfer ailgylchu? Roedd y sachau pinc ar gyfer deunyddiau plastig, caniau a thuniau, a’r sachau gwyrddion ar gyfer papur.

Efallai eich bod hefyd yn cofio bachgen penfelyn yn ei arddegau, yn gwisgo cap tu ôl ymlaen, a oedd yn ganolog i hyn…

20 mlynedd o ailgylchu yn Wrecsam - rydym wedi dod yn bell, nawr gadewch i ni fynd ymhellach

Ia, ‘Ailgylchu gyda Michael’ oedd ein brand ailgylchu cyntaf. Byddwn yn rhoi blog arall i chi am Michael yn y dyddiau nesaf, felly cadwch olwg amdano.

Ym mis Medi 2004 agorodd Canolfan Ailgylchu Lôn y Bryn, sef y fwyaf o’r tair canolfan ailgylchu sydd yn Wrecsam bellach. Mae’r ddwy arall ym Mrymbo ac ym Mhlas Madoc.

Erbyn 2007, roeddem wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio’r sachau pinc a gwyrdd gwreiddiol, ac roeddynt wedi eu disodli gan y bocsys gwyrddion a’r sachau gwyrddion ar gyfer casglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd (gweler isod). Erbyn diwedd y flwyddyn honno, roedd bron pob aelwyd yn gallu ailgylchu caniau, poteli plastig, gwydr a phapur o’u cartrefi, yn ogystal â gwastraff gardd.

20 mlynedd o ailgylchu yn Wrecsam - rydym wedi dod yn bell, nawr gadewch i ni fynd ymhellach

Agorwyd Parc Ailgylchu Wrecsam ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam ym mis Ebrill 2009 fel rhan o gontract Cynllun Ariannu Preifat 25 mlynedd gyda FCC Environment. Mae’r safle’n cynnwys Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau, Uned Compostio Mewn Cynhwysydd, Ystafell Addysg a Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff.

Hefyd yn 2009, buom yn treialu’r defnydd o sachau gleision i 6,000 o aelwydydd, a fyddai’n disodli’r sachau ailgylchu gwyrddion ar gyfer papur. Roedd y sachau gleision newydd ar gyfer ailgylchu papur, ond gallai preswylwyr ailgylchu cardfwrdd yn eu sach hefyd. Roedd y treial yn llwyddiant ac rydym yn dal i ddefnyddio’r sachau gleision hyd heddiw.

Yn yr un flwyddyn, cyflwynwyd cadis cegin gennym am y tro cyntaf, fel y gallai preswylwyr ailgylchu eu gwastraff bwyd. Gallai’r preswylwyr drosglwyddo’r gwastraff o’u cadi cegin i’w bin gwastraff gardd. Gellid rhoi cardfwrdd gwrymiog hefyd yn y bin gyda gwastraff gardd yn y cyfnod hwn.

Yn 2015 agorodd y Safle Triniaeth Fiolegol Fecanyddol newydd ym Mharc Ailgylchu Wrecsam er mwyn adfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu o’r gwastraff cyffredinol a chynhyrchu tanwydd yn deillio o sbwriel o wastraff gweddilliol yr aelwyd.

Roedd 2016 yn flwyddyn brysur – yn gyntaf, rhoddwyd 13,000 troli bocsys i breswylwyr mewn ardaloedd penodol o Wrecsam. Yn ogystal, gorffennwyd y gwaith o gyflwyno’r cadis bwyd ledled y sir fel bod un ym mhob tŷ.

Yn 2016 hefyd rhoddwyd 47,000 o focsys duon i breswylwyr er mwyn iddynt allu ailgylchu gwydr wrth ymyl y ffordd. Ac erbyn y flwyddyn honno, gallai preswylwyr roi potiau, tybiau a hambyrddau plastig wrth ymyl y ffordd i’w hailgylchu.

Agorodd siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos ym mis Tachwedd 2016, wedi ei lleoli yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn. Mae’n dal i fod yno – galwch heibio i gael cip ar y lle, mae yno ddigon o fargeinion.

Yn 2017, cawsom gyllid ar gyfer 3,500 troli bocsys arall, a roddwyd i rai o’r preswylwyr.

Yn 2018 dechreuasom gynnig bagiau am ddim ar gyfer cadis fel rhan o’r gwasanaeth ailgylchu. Cofiwch, os ydych angen rholyn newydd, clymwch un o’r bagiau i ddolen eich cadi ar y diwrnod casglu, a bydd y criw’n gadael rholyn i chi am ddim. Gellwch hefyd gasglu bagiau am ddim o nifer o leoliadau yn Wrecsam.

Caddy food waste recycling liner

Yn 2018, cawsom gyllid ar gyfer 3,000 troli bocsys arall, a roddwyd i rai o’r preswylwyr.

Wel, wnaethoch chi fwynhau hel atgofion efo ni? Os y gwnaethoch, cofiwch y bydd ein blog ‘Ailgylchu gyda Michael’ yn ymddangos yn y diwrnodau nesaf!

Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

TALU NAWR

Rhannu
Erthygl flaenorol Rhybudd Sgam: Negeseuon e-bost maleisus gan “Currys” yn cynnig nwyddau Pampers Rhybudd Sgam: Negeseuon e-bost maleisus gan “Currys” yn cynnig nwyddau Pampers
Erthygl nesaf Rheoli Traffig Ffordd Croesnewydd a Ffordd Ddyfrllyd yn ystod Gwaith Rheoli Traffig Ffordd Croesnewydd a Ffordd Ddyfrllyd yn ystod Gwaith

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
housing repairs van
Y cyngor

Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English