Ferched – mae’n amser dechrau symud!
Gall fod yn anodd mynd allan i redeg wrth i’r nosweithiau ddechrau byrhau’n raddol, ac mae hyd yn oed yn llai calonogol pan fo’r tywydd yn dechrau troi.
Ydych chi’n credu y gallech chi elwa o gael ychydig o gwmni wrth redeg? Rhywun i’ch helpu i gynnal eich brwdfrydedd ac aros ar y trywydd cywir.
Ac efallai y byddai ychydig o hyfforddiant yn ddefnyddiol hefyd?
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae ‘Codi Allan a Bod yn Egnïol’ – y sesiynau gweithgareddau a ffitrwydd a drefnir gan ein tîm Wrecsam Egnïol a’n partneriaid o Freedom Leisure – yn dechrau cyfres o sesiynau 0 i 5km / o Gerdded i Redeg yn fuan i’ch helpu i gadw’n heini yn yr hydref.
Mae’r sesiynau’n dechrau yng Nghanolfan Hamdden Queensway, Wrecsam, o ddydd Llun 10 Medi, gyda sesiynau’n parhau’n wythnosol bob dydd Llun.
Gall dechreuwyr gamu ar y trac o 6.30pm tan 7.30pm, gyda graddedigion 5km.
Mae’r sesiynau cyntaf am ddim, gyda chost o £2 y sesiwn wedi hynny.
I archebu, neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â thîm Wrecsam Egnïol ar activewrexham@wrexham.gov.uk.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION