Efallai eich bod wedi gweld ein gwaith diweddar a gynhaliwyd dan y Cynllun Treftadaeth Treflun, gyda’r bwriad o ailwampio rhai o’n adeiladau hanesyddol, pwysig o fewn canol tref Wrecsam, drwy atgyweirio neu adfer eu nodweddion traddodiadol a dathlu eu cymeriad arbennig.
Rydym yn gobeithio uwchraddio nifer o adeiladau o fewn Ardal Gadwraeth Ganol Tref Wrecsam – eu hadfywio, gan amddiffyn a gwella’r pethau hynny sy’n eu gwneud yn bensaernïol arbennig.
Cawsom grant £65,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn haf 2018 i ddatblygu’r cynllun – ac maent nawr yn paratoi ar gyfer ail gais, a allai ddiogelu £1.52 miliwn i gefnogi’r gwaith corfforol.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Rydym yn croesawu eich barn ar sut y gallai’r prosiect weithio – gan aelodau’r cyhoedd sydd eisiau defnyddio canol y dref yn gyson, a’r rheiny sy’n berchen ar adeiladau o fewn yr ardal ddynodedig.
Gyda hyn mewn golwg, byddwn yn cynnal digwyddiad ymgynghoriad yn Nhŷ Pawb o 3pm, ddydd Iau, 9 Mai.
Bydd eich barn o gymorth i’n llywio ni ar beth mae pobl ei angen o’r prosiect, yn ogystal â sut y gall y gwaith hwn gyd-fynd â phrosiectau posib eraill o fewn canol y dref.
Felly, os hoffech chi ddweud eich dweud, sicrhewch eich bod yn Nhŷ Pawb am 3pm, dydd Iau, 9 Mai.
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU