Heddiw, mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn rhybuddio cwsmeriaid rhag rhannu gwybodaeth bersonol, sensitif ar-lein i osgoi cael eu hunaniaeth wedi’i defnyddio er mwyn cyflawni twyll treth.
Mae CThEM yn ymwybodol bod troseddwyr yn ceisio cael gafael ar fanylion mewngofnodi cwsmeriaid ar gyfer Porth y Llywodraeth a manylion personol eraill. Byddai’r rhain yn eu galluogi i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm a chyflwyno hawliadau ffug am ad-daliadau treth cyn pocedu’r ad-daliad.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae unigolion, yn amrywio o bobl ifanc yn eu harddegau i bensiynwyr, yn cael eu targedu ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol gan dwyllwyr sydd eisiau ‘benthyg’ eu hunaniaeth. Fel gwobr, byddid yn addo i’r unigolyn gyfran o’r ad-daliad treth ‘heb iddo fynd i berygl’.
Wrth roi gwybodaeth bersonol a sensitif i droseddwyr fel hyn, hyd yn oed yn anfwriadol, mae unigolyn yn mynd i beryglon o ran cysylltu ei hun â thwyll treth, ac yn gorfod ad-dalu swm llawn yr hawliadau ffug.
Dylai cwsmeriaid ddelio â CThEM yn uniongyrchol neu drwy eu hymgynghorydd treth mewn perthynas â’u had-daliadau treth Hunanasesiad.
Meddai Simon Cubitt, Pennaeth Seiberdroseddu, CThEM:
“Mae angen i bobl feddwl yn ofalus iawn cyn ymwneud â threfniant fel hyn, oherwydd os yw rhywbeth yn edrych fel petai’n rhy dda i fod yn wir, yna mae’n debyg mai dyna yw’r sefyllfa.
“Mae’r rheini sy’n ymwneud â hyn yn mynd i berygl dioddef blacmel, bygythiadau o drais a chamddefnydd pellach o’u gwybodaeth bersonol wrth i droseddwyr geisio cymryd mantais bellach ohonyn nhw.
“Rwy’n erfyn ar unrhyw un sy’n ymwybodol o’r ceisiadau anonest hyn i recriwtio unigolion i weithredu’n droseddol, i roi gwybod i ni trwy chwilio am ‘Report Fraud HMRC’ ar GOV.UK a llenwi’r ffurflen ar-lein.”
Yn ogystal â’u manylion ar gyfer Porth y Llywodraeth, gellid gofyn i gwsmeriaid roi manylion eu cyfrifon banc, pasbort, trwydded yrru, cyfeiriad, dyddiad geni, a rhif Yswiriant Gwladol.
Mae CThEM yn gweithio gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol i fynd i’r afael â gweithgarwch troseddol ar lwyfannau ar-lein.
Fis diwethaf (10 Chwefror), arestiodd CThEM bedwar unigolyn rhwng 16 a 33 mlwydd oed yn Swydd Hertford, Bryste, Swydd Derby a Swydd Buckingham fel rhan o ymchwiliad i ad-daliadau Hunanasesiad ffug a throseddau gwyngalchu arian tybiedig. Mae’r ymchwiliadau’n parhau.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH