Erthyl Gwadd – CThEM
Gyda dim ond 100 diwrnod i fynd tan y Nadolig, mae CThEM yn annog siopwyr i beidio â chael eu dal allan gan gostau annisgwyl wrth brynu o fasnachwyr o dramor.
Mae newidiadau a gyflwynwyd ar 1 Ionawr eleni yn golygu y gallai fod nawr angen i rai siopwyr yn y DU, sy’n prynu anrhegion i’w ffrindiau neu i aelodau o’u teulu o fusnesau yn yr UE, dalu taliadau tollau pan fydd eu nwyddau’n cyrraedd.
Yn yr un modd ag y bu’n rhaid i siopwyr dalu costau o’r blaen wrth brynu rhai eitemau gan werthwyr y tu allan i’r UE, bydd yr un rheolau nawr yn berthnasol i nwyddau sy’n cael eu prynu o’r UE.
Nid oes angen i’r rheini sy’n prynu eitemau bach boeni am y newidiadau. Dylai’r newidiadau ond effeithio ar y rhai sy’n prynu nwyddau ecséis, fel tybaco neu alcohol, neu’n sy’n archebu eitemau moethus neu anrhegion mewn llwythi sy’n werth mwy na £135, cyn tynnu unrhyw ostyngiadau.
Codir TAW o hyd ar bethau a brynir mewn llwythi sy’n werth llai na £135 ond dylen nhw gael eu codi gan y gwerthwr ar yr adeg werthu.
Ond mae’n bosibl y bydd angen i unrhyw un sy’n prynu cynnyrch mwy costus o dramor dalu TAW mewnforio, toll dramor a/neu doll ecséis pan fydd yr archeb yn cyrraedd. Bydd y swm sy’n ddyledus yn dibynnu ar ystod o ffactorau, felly er mwyn sicrhau nad oes dim yn tarfu ar y dathliadau, dylai defnyddwyr wirio gyda’r gwerthwr i sicrhau nad ydyn nhw’n gwario gormod dros y cyfnod.
Er mwyn helpu siopwyr, mae CThEM wedi creu diagramau sy’n dangos y gwahanol senarios wrth brynu o’r UE. Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi arweiniad sy’n hawdd ei ddilyn ar gyfer siopwyr, er mwyn helpu pawb i ddeall y newidiadau a phryd, pam a sut y bydd angen talu’r costau.
Dywedodd Katherine Green a Sophie Dean, Cyfarwyddwyr Gyffredinol, Ffiniau a Masnachu, Cyllid a Thollau EM (CThEM):
“Gyda 100 diwrnod i fynd tan y Nadolig, ry’n ni eisiau atgoffa siopwyr o’r newidiadau a gyflwynwyd ers 1 Ionawr, er mwyn sicrhau bod eu profiad o brynu anrhegion mor ddidrafferth a hwylus â phosibl, ac nad yw siopwyr ar-lein yn cael eu dal allan gan unrhyw gostau annisgwyl.”
Dysgwch ragor am y rheolau newydd drwy droi at GOV.UK lle y cewch ganllaw syml i’r costau posibl a gwybodaeth hanfodol am sut i herio tâl, dychwelyd nwyddau dieisiau a chael ad-daliad o’r costau rydych wedi’u talu.
Cewch arweiniad hefyd ar beth allai fod ei hangen arnoch wrth anfon anrhegion at eich teulu neu ffrindiau sy’n byw dramor, neu wrth dderbyn eitemau oddi wrthynt.
(Saesneg yn unig)
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN