Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gofalu am Wrecsam – dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gofalu am Wrecsam – dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned
ArallBusnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Gofalu am Wrecsam – dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned

Diweddarwyd diwethaf: Medi 28, 2021 4:46 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Gofalu am Wrecsam
RHANNU

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rydym i gyd yn gwybod bod diffyg gweithwyr gofal mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru ar hyn o bryd.

Efallai y byddwch chi wedi gweld ymgyrch genedlaethol Gofalwn Cymru, sy’n annog pobl i ystyried swyddi a gyrfaoedd yn y sector gofal.
Felly mae hi yn Wrecsam hefyd, ac rydym ni angen rhai sydd â’r rhinweddau cywir i gamu ymlaen i lenwi swyddi lleol.

Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio gyda llawer o gyflogwyr i helpu i ddarparu gofal i bobl yn eu cartrefi ac mewn llety â chymorth – i’w helpu i fod yn annibynnol a byw fel maent yn dymuno.

Mae’n yrfa sydd, yn llythrennol, yn newid bywydau, a gallwch gael cymaint o foddhad ohoni.

Felly cysylltwch, ac fe wnawn ni helpu i’ch cyfeirio at swyddi lleol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Gallwch hefyd ddod o hyd i swyddi ar borth swyddi Gofalwn Cymru…

Ym mis Awst gwnaethom bostio 800 o swyddi gwag ledled Cymru!

Dewch o hyd i swydd yn eich ardal chi ????https://t.co/Lngi6owyLr#GofalwnCymru pic.twitter.com/5odH4zmlOq

— GofalwnCymru (@GofalwnCymru) September 1, 2021

Mae Wrecsam eich angen chi

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion:

“Mae Cymru gyfan yn wynebu diffyg gweithwyr gofal ar hyn o bryd, ac rydym ni angen pobl sydd â’r rhinweddau cywir i lenwi swyddi yn Wrecsam rŵan.

“Mae swydd ym maes gofal cymdeithasol yn gallu golygu helpu pobl yn eu cartrefi gyda thasgau dydd i ddydd, mynd â phobl i ganolfannau dydd neu weithgareddau neu ofalu am rai sydd ag anghenion iechyd cymhleth mewn cartrefi gofal neu lety â chymorth.

“Mae sawl rôl wahanol, a phob un yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.

“Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

“Cysylltwch ac fe wnawn ni eich helpu i ddysgu mwy am gyfleoedd lleol.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Ymgynghoriad – dweud eich dweud ar ffiniau Cymru Ymgynghoriad – dweud eich dweud ar ffiniau Cymru
Erthygl nesaf HMRC Rhybudd i siopwyr Nadolig – gocheler rhag costau ychwanegol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English