Fe fydd camerâu’n cael eu defnyddio ar gyffyrdd prysur er mwyn dal y rhai sydd yn taflu sbwriel allan o geir a lorïau.
Byddant yn ymddangos ar ffyrdd ymuno ac ymadael yr A483 yn Johnstown yn fuan iawn a bydd gyrwyr sydd yn gyfrifol am daflu sbwriel yn cael dirwy ac yn wynebu cael eu herlyn.
Mae’r A483 yn ffordd gyflym ac mae angen cau’r ffordd er mwyn gallu casglu’r sbwriel yn ddiogel.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae lleihau sbwriel ochr y ffordd yn rhan o ymgyrch genedlaethol rydym ni’n ei chefnogi i atal pobl rhag llygru’n lleiniau ymyl ffordd.
“Mae sbwriel yn cael ei daflu allan o gerbydau ar y lleiniau yn y gyffordd hon. Rydym ni’n trafod sbwriel annerbyniol ar hyd yr A483 gyda’r asiantaeth cefnffyrdd ac mae casglu’r sbwriel yn golygu cost i drethdalwyr lleol.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL