Peidiwch â dilyn unrhyw ddolenni sy’n arwain at wefannau gwe-rwydo gydag ymddangosiad go iawn, sydd wedi’u dylunio i ddwyn eich manylion mewngofnodi yn ogystal â gwybodaeth bersonol ac ariannol.
Dywedodd Roger Mapleson Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu Cyngor Wrecsam, “Ni fyddai sefydliad ag enw da yn gofyn i chi rannu gwybodaeth bersonol dros e-bost neu neges destun. Os oes angen i chi wirio bod y neges yn wir, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol.
“Yn anffodus, mae’r mwyafrif o bobl yn debygol o dderbyn negeseuon e-bost ffug o bryd i’w gilydd sy’n ymddangos i fod gan Amazon, neu fanwerthwyr adnabyddus ar-lein, neu sefydliadau busnes eraill. Byddwch yn ofalus iawn gyda negeseuon e-bost diofyn. Peidiwch â dilyn dolenni a pheidiwch â datgelu gwybodaeth bersonol.”
Mae’r rhybudd yn dod ar ôl i Action Fraud dderbyn dros 2,000 o adroddiadau o negeseuon ffug mewn wythnos!
Os ydych chi’n gweld neges e-bost amheus, anfonwch hi ymlaen at y Gwasanaeth Adrodd Negeseuon E-bost Amheus (SERS) – report@phishing.gov.uk
Am ragor o wybodaeth gweler https://www.ncsc.gov.uk/collection/phishing-scams sef gwefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN