Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y diweddaraf am Ysgol yr Hafod
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Y diweddaraf am Ysgol yr Hafod
Y cyngor

Y diweddaraf am Ysgol yr Hafod

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 23, 2022 3:06 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Y diweddaraf am Ysgol yr Hafod
RHANNU

Fel rhan o Fand B o’n Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif rydym yn buddsoddi £4.5m yn ailddatblygiad Ysgol yr Hafod, Ffordd Bangor er mwyn  gwella’r cyfleusterau addysgol yno i blant a staff fel ei gilydd ac uno’r ysgol ar un safle. Bydd y gwaith yn cynnwys ailddatblygu’r hen ysgoldy fel y gallwn ddiwallu hawliau addysg y blynyddoedd cynnar gan olygu y bydd yr un safle hwn yn cartrefu pob disgybl o 3 i 11 oed.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

O ddydd Mawrth, 1 Mawrth 2022 bydd pob grŵp oedran yn cael eu haddysgu dros dro yn safle’r cyfnod sylfaen (Melyd Avenue) fel y gall gwaith ar safle Ffordd Bangor gychwyn.

Bydd y safle yn Ffordd Bangor yn cael ei drosglwyddo i ddwylo ein contractwr ac yn cael ei ddosbarthu’n safle adeiladu felly ni chaniateir mynediad o gwbl i’r safle hwnnw.

Disgwylir y bydd Wynne Construction yn dechrau gwaith ar safle Ffordd Bangor ddiwedd Mawrth/dechrau Ebrill.

Bydd wyneb Fictoraidd adeilad safle Ffordd Bangor yn cael ei gadw fel rhan o dreftadaeth yr ardal. Disgwylir y bydd y gwaith yn para 52 wythnos ac y bydd wedi’i gwblhau erbyn mis Ebrill 2023.

Mae Adain Diogelwch y Ffyrdd yr Adran Briffyrdd wedi bod yn gweithio gydag Ysgol yr Hafod i sicrhau y cedwir problemau traffig cysylltiedig â’r ailddatblygiad ac adleoliad disgyblion i’r isafswm.

Sefydlwyd sawl mesur i liniaru pryderon parcio’r preswylwyr lleol. Mae hyn yn cynnwys marciau ffordd bar-H gwyn ychwanegol ac rydym hefyd yn gofyn i bobl fod yn ystyriol o breswylwyr yn ystod cyfnodau prysur ac i osgoi parcio ar draws ddrefiau neu barcio mewn ffordd sy’n tarfu ar lif y traffig.

Bydd Croesfan yr Ysgol yn cael ei symud i safle’r cyfnod sylfaen drwy gydol y cyfnod er mwyn helpu staff yr ysgol ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol.

Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid i gerdded eu plant i’r ysgol a byddwn yn annog teithio llesol dros y 12 mis nesaf gyda dyddiau cerdded i’r ysgol dynodedig.

Oherwydd bod parcio ar gyfer staff yn safle Melyd Avenue yn gyfyngedig, rydym yn gweithio gyda’r ysgol a’r Clwb Bowlio i greu mwy o le.

Wrth i’r prosiect symud yn ei flaen byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwaith yn Ffordd Bangor a’r mesurau parcio ychwanegol y cytunwyd arnynt fel rhan o’r amodau cynllunio.

Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd i’r gymuned a mwy o wybodaeth am amserlenni’r gwaith wrth i’r prosiect symud yn ei flaen.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Dim ond rhan o’n hymrwymiad parhaus i ddiweddaru a gwella cyfleusterau ar draws y sir i’n dysgwyr ifanc yw’r datblygiad cyffrous hwn.”

Dywedodd y cynghorydd lleol a Chadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol yr Hafod, y Cynghorydd David A Bithell: “Ar ran Corff Llywodraethu’r Ysgol hoffwn ddiolch i’r gymuned am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni weithio tuag at ddarparu canolbwynt dysgu gwych a fydd o fudd i genedlaethau i ddod.”

Y diweddaraf am Ysgol yr Hafod Y diweddaraf am Ysgol yr Hafod Y diweddaraf am Ysgol yr Hafod Y diweddaraf am Ysgol yr Hafod

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Storms Gwaith clirio yn parhau ar ôl y stormydd
Erthygl nesaf Rhybudd Twyll: Peidiwch â chael eich twyllo gan negeseuon e-bost ffug gan Amazon Rhybudd Twyll: Peidiwch â chael eich twyllo gan negeseuon e-bost ffug gan Amazon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English