Erthygl Gwadd – Dave Cottle Civil Engineering
Penodwyd Dave Cottle Civil Engineering gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i wneud y gwaith o osod bolardiau awtomatig wrth y fynedfa i Stryt Yorke.
Er mwyn helpu i gyflawni’r gwaith yn ddiogel y bydd angen i ni gau Stryt Yorke dros dro.
Bydd y ffordd ar gau am dair wythnos yn dechrau Dydd Llun 10 Mawrth ac yn dod i ben ddydd Gwener 28 Mawrth.
Bydd mynediad i gerddwyr yn parhau yr holl amser. Bydd gwyriadau traffig mewn grym.
Rydym yn gwerthfawrogi bod hon yn ardal brysur iawn o’r ddinas ac rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw darfu a achosir dros dro. Byddwn yn gweithio mor ddiogel, effeithlon ac i’r safonau uchaf posibl er mwyn cwblhau’r gwaith cyn gynted ag y gallwn.
Os hoffech gysylltu â ni, gallwch ddefnyddio’r manylion isod.
Dave Cottle Civil Engineering:
Darren Williams 01978 955713 neu 07739 326780.
Rheoli Traffig Core Highways:
Geraint Jones 01978 820088 neu 07936 441298
Geraint.Jones@corehighways.com
Y tu allan i oriau 0330 043 3030
Cysylltiadau CBSW
Keith Edwards
Amgylchedd a Thechnegol CBSW
07800 688986