Wrth i’n contractwr Griffiths agosáu at gamau olaf y gwaith ar welliannau Canol y Ddinas ac er mwyn ymuno’r arwynebau newydd ffordd o Stryd Caer i’r Stryd Fawr, bydd angen iddynt gau’r ffyrdd dros dro sy’n arwain at y gyffordd rhwng Stryd Caer, Stryd Charles a’r Stryd Fawr er mwyn i’r gwaith gael ei wneud yn ddiogel.
Bydd hyn yn dechrau ddydd Llun 7 Hydref ac yn dod i ben ddydd Gwener 25 Hydref.
Bydd Stryd Caer ar gau i bob cerbyd o’r gyffordd â Stryd y Banc tuag at Stryd Charles/Stryd Fawr ac ni fydd mynediad i gerbydau y tu hwnt i’r gyffordd hon i Stryd Charles/Stryd Fawr nes bod y gwaith wedi’i gwblhau. Bydd mynediad i gerddwyr yn parhau ar agor drwy gydol yr amser hwn o’r gwaith.
Ar gyfer danfoniadau busnes, bydd darpariaeth o fan gollwng ar gael ym mhen dwyreiniol Stryd Fawr. Bydd staff Griffiths ar gael ac yn hapus i helpu drwy ddarparu gwasanaeth porthor o’r lleoliad hwn I’r fusnesau. Bydd casgliadau gwastraff ar ddau ben Stryd Caer (h.y. cyn belled â chyffordd Stryd y Banc) ac wrth allanfa Stryd Charles.
Rydym yn gwerthfawrogi bod hon yn ardal brysur yn y ddinas ac rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw darfu dros dro a achoswyd. Bydd Griffiths yn gweithio’n ddiogel, effeithlon ac i’r safonau uchaf posibl er mwyn cwblhau’r gwaith cyn gynted â phosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae hwn yn gyfnod cyffrous ac yn amser pwysig i’r gwaith yng nghanol ein dinas.” Yn anffodus, ni ellir cwblhau’r prosiectau mawr hyn heb unrhyw amhariad, fodd bynnag nod ein contractwyr yw tarfu cyn lleied â phosibl, a chwblhau’r gwaith cyn gynted â phosibl.”