Wrth i’r Nadolig nesáu mae’r tîm Safonau Masnach a Gwarchod y Cyhoedd yma yn Wrecsam yn gofyn i bawb fod yn wyliadwrus o unrhyw alwadau diwahoddiad yn gofyn i chi am eich manylion banc neu i lawrlwytho unrhyw fath o ap.
Os cewch chi alwad o’r fath rhowch y ffôn i lawr a rhoi gwybod i Action Fraud. Os oes gennych chi unrhyw bryder y gall fod yn rhybudd dilys yna dewch â’r alwad i ben yr un fath a chysylltu â’r banc, cymdeithas adeiladu neu’r masnachwr perthnasol yn uniongyrchol ar y rhifau a gyhoeddwyd ganddynt.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Un enghraifft ddiweddar yw twyll a gostiodd swm sylweddol o arian i bobl yn Ne Cymru. Derbyniodd dioddefwyr yr achos hwnnw o dwyll alwad awtomatig yn dweud wrthynt fod twyllwr wedi defnyddio eu manylion personol i gofrestru ar gyfer tanysgrifiad Amazon Prime. Wedyn roeddent yn cael cyfarwyddyd i wasgu 1 i ganslo’r weithred. Os ydynt yn gwneud hyn yna maent wedyn yn cael eu cysylltu’n uniongyrchol â’r twyllwr go iawn sy’n esgus bod yn gynrychiolydd o wasanaeth cwsmeriaid Amazon.
Mae’r twyllwr yn dweud wrth y dioddefwr fod tanysgrifiad o Amazon Prime wedi ei brynu drwy dwyll a bod angen mynediad o bell arnynt i gyfrifiadur y dioddefwr er mwyn datrys gwall diogelwch a fyddai’n atal hyn rhag digwydd eto. Caiff y dioddefwr gyfarwyddyd i lawrlwytho rhaglen o’r enw ‘Team Viewer’ a gofynnir iddo fewngofnodi i’w gyfrif banc ar-lein. Mae’r feddalwedd lawrlwytho yn rhoi mynediad o bell i’r twyllwr i gyfrifiadur y dioddefwr ac yn eu galluogi i weld manylion personol ac ariannol y dioddefwr.
Dim ond un enghraifft yw hon, fe all y twyllwr ddweud fod ad-daliad yn ddyledus i chi neu efallai y bydd yn dweud ei fod o’r swyddfa dreth a bod ad-daliad treth yn ddyledus i chi. Mae yna amrywiaethau dirifedi ond maent i gyd yn arwain at roi cyfarwyddiadau i’r dioddefwr sy’n caniatáu mynediad i fanylion banc gan alluogi troseddwyr i ddwyn eu harian.
Yn yr achos penodol hwn mae Action Fraud wedi derbyn 200 o adroddiadau gan bobl sydd wedi colli arian i’r twyll a 300 o adroddiadau eraill gan bobl a dderbyniodd un o’r galwadau ond na ddilynodd gyfarwyddiadau’r twyllwyr.
“Beth allwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun?”
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu: “Hyd yma dydyn ni ddim wedi cael unrhyw adroddiadau yn ymwneud â galwadau o’r math yma yn Wrecsam – ond rydyn ni’n dymuno cadw pethau fel hyn felly byddwch yn ofalus iawn os gwelwch yn dda. Byddwch yn ymwybodol o dwyll a pheidiwch FYTH â gadael i unrhyw un eich arwain i ganiatáu mynediad o bell i’ch cyfrifiadur, tabled neu ffôn na lawrlwytho unrhyw apiau neu feddalwedd. Os cewch eich dal a’ch bod yn credu eich bod o bosib wedi eich twyllo cysylltwch â’ch banc neu eich cymdeithas adeiladu cyn gynted ag y sylweddolwch eich bod wedi eich twyllo. Gall fod mewn pryd i atal unrhyw dynnu arian yn anghyfreithlon. Dylai fod gan bob un linell gymorth 24 awr ar gyfer twyll. Edrychwch ar eu gwefan, fe ddylai fod yn hawdd dod o hyd iddo.
Peidiwch â lawrlwytho unrhyw apiau neu feddalwedd. Gofynnwch i chi eich hun bob amser – ai twyll yw hwn? Os oes gennych unrhyw amheuaeth rhowch y ffôn i lawr a chysylltwch â’r cwmni’n uniongyrchol drwy ddefnyddio rhif ffôn hysbys.”
Os ydych wedi dioddef twyll neu drosedd seiber, neu’n credu y gallech fod wedi dioddef hynny, siaradwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu a rhowch wybod i Action Fraud arlein neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD