Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhyddhau Manylion y Gwasanaeth Coffa Blynyddol 2021
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhyddhau Manylion y Gwasanaeth Coffa Blynyddol 2021
Y cyngor

Rhyddhau Manylion y Gwasanaeth Coffa Blynyddol 2021

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 5, 2021 12:32 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Rhyddhau Manylion y Gwasanaeth Coffa Blynyddol 2021
RHANNU

Rydym yn falch o gadarnhau y bydd y Gwasanaeth Coffa Blynyddol yn cael ei gynnal eleni gyda mân gyfyngiadau ddydd Sul 14 Tachwedd 2021 wrth Gofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Modhyfryd, Wrecsam.

Bydd y parêd milwrol yn gadael Barics Hightown a bydd grwpiau o gyn-filwyr, grwpiau ieuenctid gan gynnwys Cybiau a Brownis a sefydliadau lleol eraill yn ymuno â’r orymdaith ar Stryt Caer.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Bydd y gwasanaeth yn cychwyn am 10.55 ac am 10.59, bydd y biwglwr yn canu’r “Caniad Olaf” a chynhelir dau funud o dawelwch.

Estynnir gwahoddiad i chi ddod i’r digwyddiad teimladwy hwn i gofio’r rhai hynny a frwydrodd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd, a’r holl wrthryfeloedd dilynol.

Eleni, oherwydd y pandemig parhaus rydym yn gofyn i bawb sy’n mynychu ystyried gwisgo masg yn enwedig os nad ydynt yn gallu cadw pellter cymdeithasol oddi wrth y rheiny o’u hamgylch. Ni chaniateir mynediad cyhoeddus i’r Neuadd Goffa cyn nac ar ôl y digwyddiad oherwydd ei bod yn cael ei defnyddio fel safle profi Covid-19 ar hyn o bryd.

Gall unrhyw un sy’n dymuno gosod torch ond sy’n methu â mynychu neu’n teimlo’n anghyfforddus yn mynychu digwyddiad mawr wneud hynny ar ôl y gwasanaeth pan fydd llai o bobl o gwmpas.

Mae’r Gorchymyn Gwasanaeth ar gael i’w lawrlwytho yma, a bydd copïau ar gael ar y diwrnod hefyd.

Bydd rhwystrau’n cael eu gosod am 10.30am yn y lleoliadau canlynol er mwyn i’r parêd allu pasio’n ddiogel ac i ddiogelu’r ardal o’i amgylch:

• Stryt Caer (ger hen dafarn y Plu)
• Stryt Holt (ger tafarn y Ffiwsilwyr Cymreig)
• Ffordd Caer (ger cylchfan Ffordd Caer / Ffordd Powell)

Felly dim ond tan 10.30am y bydd modd cael mynediad i Faes Parcio Bodhyfryd ger Byd Dŵr.

Annual Service of Remembrance

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Y gang yn ymweld â Deadpool llif gadwyn! Y gang yn ymweld â Deadpool llif gadwyn!
Erthygl nesaf Pas Covid Sut i gael eich Pàs Covid os ydych chi’n mynd am noson allan

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English