Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhyfeloedd Angof : Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o gwmpas y Byd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rhyfeloedd Angof : Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o gwmpas y Byd
Pobl a lleY cyngor

Rhyfeloedd Angof : Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o gwmpas y Byd

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 11, 2019 4:25 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Rhyfeloedd Angof : Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o gwmpas y Byd
RHANNU

Mae Wrecsam yn nodi Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad eleni gydag arddangosfa newydd yn yr amgueddfa:

Rhyfeloedd Angof : Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o gwmpas y Byd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae coffadwriaethau wedi canolbwyntio’n bennaf ar y Rhyfel Byd Cyntaf, ond dros y canrifoedd roedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a fu’n recriwtio’n drwm ledled gogledd Cymru ac a oedd wedi’u lleoli yn Wrecsam, yn cael eu galw i frwydro mewn rhyfeloedd ym mhob cwr o’r byd.  Aeth milwyr o ogledd Cymru i ymladd yn Affrica, America, Asia ac Ewrop.

Mae nifer o’r rhyfeloedd hyn yn droednodiadau mewn llyfrau hanes ac yn aml mae eu cofebion a welir ar ein strydoedd ac yn ein heglwysi yn cael eu hanwybyddu neu eu hanghofio’n llwyr hyd yn oed. Fodd bynnag, mae’r rhyfeloedd hyn yn cael eu cofio mewn gwledydd eraill ac mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at yr hanes byd-eang hwn sy’n rhan o hanes Wrecsam a Chymru.

“Dyma rai o uchafbwyntiau’r arddangosfa:”

  • Medalau ymgyrchoedd Rhyfel y Crimea, Rhyfel De Affrica a’r Rhyfelgyrch Rhyngwladol i Pecin yn 1900.
  • Llythyr am Florence Nightingale
  • Arfau traddodiadol o dalaith ar ffin ogledd-orllewinol yr Ymerodraeth Indiaidd
  • Lifrai Milwr Prydeinig o reng arall o’r 19eg ganrif
  • Cap herwfilwr comiwnyddol Tsieineaidd o Argyfwng Malaya.
  • Llyfr braslunio o’r ymfyddiniad yn Bosnia-Herzegovina

Bydd yr arddangosfa yn agor / Agorodd yr arddangosfa ar 8 Tachwedd 2019 a bydd ymlaen am flwyddyn. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.

Dywedodd y Cadfridog Jonathon Riley, comander lluoedd yr Awyrlu yn Bosnia-Herzegovina, awdur a hanesyddol milwrol: “Mae ffocws y pum mlynedd ddiwethaf ar y Rhyfel Mawr yn ein hatgoffa ni nad ydi amser yn lleihau maint yr aberth gan filwyr er mwyn eu gwlad. Fel yn yr 21ain Ganrif, mae ein milwyr ni wedi bod mewn rhyfeloedd ar draws y byd, ac fe alwyd ar genedlaethau’r gorffennol i wneud yr un peth. Mae’r arddangosfa hon yn ein hatgoffa ni o hynny.”

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch yr amgueddfa ar 01978 297 460.

Rhannu
Erthygl flaenorol Darganfyddwch y ffeithiau a’r ffantasi o hanes Wrecsam Darganfyddwch y ffeithiau a’r ffantasi o hanes Wrecsam
Erthygl nesaf Newyddion da wrth i’r Loteri Genedlaethol gymeradwyo nawdd o £1.52 miliwn ar gyfer gwaith treftadaeth yn y dref Newyddion da wrth i’r Loteri Genedlaethol gymeradwyo nawdd o £1.52 miliwn ar gyfer gwaith treftadaeth yn y dref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English