Mae Swyddfa Rheoleiddio’r Priffyrdd wedi cyflwyno ei hadroddiad blynyddol ddiwedd blwyddyn ddiwethaf ar deithwyr yn defnyddio’r gorsafoedd ar linell Caer, Wrecsam a’r Amwythig sydd yn dangos cynnydd yn y nifer o deithwyr yn ystod 2018/2019. 🙂
Mae’r cynnydd fel a ganlyn:
- Caer i fyny 8% i 5,061,662 o 4,686,374
- Wrecsam Cyffredinol i fyny 7.6% i 529,622 o 492,390
- Rhiwabon i fyny 7.3% i 102,628 o 95,670
- Y Waen i fyny 5.6% i 79,746 o 75,524
- Gobowen i fyny 4.5% i 228,526 o 218,684
- Yr Amwythig i fyny 3% i 2,276,726 o 2,209,684
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Meddai Cadeirydd Partneriaeth Rheilffyrdd Caer a’r Amwythig, y Cynghorydd David A Bithell, “Mae’n dangos pa mor bwysig yw ein rheilffyrdd i bob un o’n cymunedau. Mae teithwyr yn yr ardal wedi dewis teithio ar drên am ei fod yn rhoi cysylltiadau da iddyn nhw i lefydd maen nhw angen eu cyrraedd yn waith, addysg neu hamdden. Mae’r newidiadau i amserlen Rhagfyr gan Drafnidiaeth Cymru sydd wedi golygu colli gwasanaeth bore i’r gogledd a gorfod aros am ddwy awr am drên i’r de yn y prynhawn yn fwy anodd ei deall pan mae’r ffigyrau yn dangos cynnydd o ran defnydd.”
“Ailgyflwynwch y gwasanaeth bob awr ar hyd llinell Caer, Wrecsam a’r Amwythig“
“Mae teithwyr angen gwasanaeth cyson a dibynadwy a byddwn yn parhau i bwyso i ailgyflwyno’r gwasanaeth bob awr ar hyd llinell Caer, Wrecsam a’r Amwythig a oedd yn wasanaeth a ddefnyddiwyd yn gyson ers ei gyflwyno 13 mlynedd yn ôl gan Drenau Arriva Cymru.”
Darllenwch fwy am welliannau llynedd i’r llinell hwn.
https://news.wrexham.gov.uk/community-rail-partnership-stays-on-track-for-future-improvements
Community rail partnership stays on track for future improvements
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN