Cymryd camau gweithredu yn erbyn bar yng nghanol y dref, ac erfyn ar fusnesau a chwsmeriaid i gadw at y rheolau i ddiogelu Wrecsam…
Fel Cyngor rydym ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau lleol yn ystod argyfwng Covid-19.
Mae’n wych gallu dweud bod y rhan fwyaf o fusnesau yn rheoli’r risgiau yn dda, ac yn cadw staff a chwsmeriaid mor ddiogel â phosibl.
Mae pob busnes yn wahanol ac mae’n rhaid i bob un ystyried y newidiadau sydd arnyn nhw angen eu gwneud i gadw pawb yn saff.
Fodd bynnag, mae’n ddyletswydd arnom ni hefyd i ymyrryd pan fo busnes yn rhoi staff, cwsmeriaid a Wrecsam mewn perygl o gael eu rhoi dan fesurau diogelwch Covid-19.
Felly’r wythnos hon rydym ni wedi cyflwyno “hysbysiad gwella” i far Chequers ar Stryt yr Eglwys, Wrecsam.
Rydym ni wedi gwneud hyn yn defnyddio pwerau newydd a roddwyd i gynghorau lleol dan y ddeddfwriaeth coronafeirws.
Torri’r rheoliadau
Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam:
“Roedd yr eiddo wedi torri’r rheoliadau drwy beidio â sicrhau bod cwsmeriaid yn cadw pellter cymdeithasol, drwy fethu â rheoli ciwiau a thrwy adael i gwsmeriaid yfed ar eu traed.
“Does arnom ni ddim eisiau rhoi hysbysiadau o’r fath i fusnesau, ond mae’n rhaid i bob sefydliad gadw at y rheolau er mwyn cadw Wrecsam yn saff.
“Byddwn yn gweithio gyda Chequers i ddarparu rhagor o arweiniad a gobeithio y gallwn ni eu helpu i gydymffurfio â’r rheoliadau yn y dyfodol agos.”
Dim busnesau yn unig… mae’n rhaid i bawb chwarae ei ran
Nid yw cadw canol y dref yn ddiogel a chroesawus yn fater i fusnesau yn unig.
Mae gennym ni fel cwsmeriaid ran bwysig i’w chwarae hefyd. Felly pan fyddwch chi’n mynd i dafarn, caffi, bwyty neu siop, helpwch y staff drwy ddilyn y cyfarwyddiadau a chadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol.
Mae’n rhaid i sefydliadau bwyta ac yfed dderbyn manylion cyswllt cwsmeriaid, felly cofiwch ‘gofrestru’ pan ofynnir i chi wneud hynny.
Os yw unrhyw gwsmer yn derbyn prawf Covid-19 positif, bydd hyn yn helpu’r olrheinwyr cysylltiadau i gysylltu â phobl a all fod wedi dod i gysylltiad â’r person yn y sefydliad.
Dal y ddysgl yn wastad
Meddai’r Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd:
“Rydym ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau lleol, ond mae angen dal y ddysgl rhwng cadw pawb yn saff a chefnogi’r economi lleol yn wastad.
“Mae’n hollbwysig bod busnesau yn cadw at y rheoliadau. Fedra i ddim rhoi digon o bwyslais ar hynny.
“Mae hefyd yn bwysig bod cwsmeriaid yn cadw at y rheolau pan fyddan nhw’n ymweld â thafarndai, barrau, bwytai a siopau lleol.
“Cofiwch fod yn garedig efo’r staff a gwrando ar y cyfarwyddiadau. Maen nhw’n gweithio dan amodau anodd iawn, ac mae arnyn nhw angen cwsmeriaid i weithio efo nhw.
“Mae diogelu Wrecsam yn berthnasol i bawb – busnesau a chwsmeriaid – ac mae’r rhan fwyaf yn gwneud gwaith gwych.”
Gwybodaeth ddefnyddiol
Os ydych chi’n rhedeg busnes yn Wrecsam a’ch bod chi’n ansicr ynghylch y rheoliadau Covid-19 diweddaraf a sut maen nhw’n effeithio arnoch chi, edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os oes arnoch chi angen rhagor o gyngor, ffoniwch Cyngor Wrecsam ar 01978 298990.
Os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd ac yn pryderu ynghylch trefniadau diogelwch eiddo pan fyddwch chi’n siopa, bwyta neu’n yfed allan, gallwch dderbyn gwybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN