Yn ddealladwy bydd nifer o bobl yn Wrecsam yn awyddus i wneud popeth a allant i gynnig cefnogaeth i bobl yn Wcráin sydd wedi eu dadleoli yn ystod cyfnod o angen. Mae’r haelioni a ddangoswyd wedi bod yn anhygoel.
Mae tudalen ganllaw Llywodraeth Cymru – Wcráin – Cefnogaeth i Bobl a Effeithir – yn disgrifio ffyrdd i helpu a hefyd yn darparu gwybodaeth bwysig ynglŷn â chymorth sydd ar gael i’r rhai a effeithiwyd gan y sefyllfa yn Wcráin.
❤
Mae Cyngor Wrecsam wedi anfon neges o gefnogaeth i Wcráin, wrth i weddill y byd barhau i annog Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin i atal ei oresgyniad.
Cychwynnodd ymosodiad y Kremlin ddydd Iau diwethaf, ac mae eisoes wedi achosi dioddef a therfysg eithriadol yn y rhanbarth.
Mae’r Cyngor yn bwriadu codi banner Wcráin y tu allan i Neuadd y Dref, a bydd yn goleuo’r adeilad yn lliwiau’r Wcráin i ddangos cydsafiad.
Gweddïo am heddwch
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Rydym ni’n llwyr gefnogi ac yn cydsefyll ag Wcráin yn ystod y cyfnod anodd a thywyll yma.
“Mae dewrder a phenderfyniad pobl Wcráin wedi bod yn anhygoel, ac rydym ni gyd yn gobeithio ac yn gweddïo y bydd llywodraeth Rwsia yn sylweddoli bod ei gweithredoedd yn anghywir.
“Fe hoffem ni hefyd fynegi ein cefnogaeth i’r Rwsiaid sydd wedi siarad yn gyhoeddus yn erbyn Putin ac sydd eisiau byw mewn heddwch gyda’u cymdogion yn Wcráin.
“Mae angen dewrder i siarad yn erbyn y llywodraeth yn Rwsia, ac ni ddylem anghofio nad yw llawer o bobl Rwsia eisiau’r rhyfel yma, ac fe fyddan nhw’n dioddef hefyd.
“Rydym ni’n gweddïo dros Wcráin, ac rydym ni’n gweddïo y bydd heddwch a thrugaredd yn goresgyn.”
Meddyliau a gweddïau
Dywedodd Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:
“Rydym ni eisiau i bobl Wcráin wybod ein bod ni gyda nhw – ein bod ni’n cefnogi eu hawl i fyw eu bywydau mewn heddwch ac yn rhydd.
“Mae’r hyn mae llywodraeth Rwsia wedi ei wneud yn anghywir. Mae bywydau wedi cael eu difetha, mae teuluoedd wedi cael eu chwalu ac mae dyfodol pobl wedi cael ei gymryd oddi arnynt mewn dim.
“Mae’r digwyddiadau rydym ni’n eu gweld yn ofnadwy, ac mae’n meddyliau a gweddïau gyda phawb sydd yn dioddef.
“Efallai mai bwrdeistref sirol fechan yng ngogledd Cymru ydi Wrecsam, ond fel gweddill Cymru a’r DU, rydym ni’n cyd-sefyll gydag Wcráin.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH