Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cydnabyddiaeth ar gyfer menter gymdeithasol yn y Waun
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cydnabyddiaeth ar gyfer menter gymdeithasol yn y Waun
Pobl a lle

Cydnabyddiaeth ar gyfer menter gymdeithasol yn y Waun

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 28, 2022 2:59 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Mayor Visiting Gyn Wylfa
RHANNU

Yn ddiweddar bu i Faer ac Arweinydd Cyngor Wrecsam ymweld â menter gymdeithasol i gydnabod a dathlu gwobr fawreddog a gawsant.

Cynnwys
  • Dechrau o’r dechrau
  • Gwaith caled yn talu ar ei ganfed
  • Y daith dywys

Dechreuodd Glyn Wylfa, yn y Waun ger Dyfrbont y Waun (rhan o Safle Treftadaeth y Byd), fasnachu fel canolfan menter gymdeithasol yn 2013 ac wedi bod yn mynd o nerth i nerth dros y naw mlynedd ddiwethaf.

Dechrau o’r dechrau

Roedd yr adeilad gwreiddiol yn dŷ preifat a adeiladwyd yn 1899 a oedd wedi bod yn wag ac mewn cyflwr gwael. Daeth tîm ynghyd a chreu cynllun busnes i’w gyflwyno i’r bwrdd yng Nghyngor Wrecsam gyda’u gweledigaeth ar gyfer y safle. Bu i’r cyngor gefnogi a chymeradwyo’r prosiect.

Ar ôl cael arian gan y loteri, bu i’r tîm ddechrau prynu’r tŷ a’r tiroedd a dechrau adnewyddu’r safle.

Erbyn hyn mae gan y safle gaffi gyda lle i 80 eistedd a man eistedd awyr agored newydd tra bod y tŷ ei hun bellach yn cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd masnachol i 11 o gwmnïau lleol sydd wedi creu 30 o swyddi.

Mae’r holl elw a wneir gan Glyn Wylfa un ai’n cael ei roi tuag at wella’r adeilad a’r gwasanaethau ymhellach neu ariannu’r grwpiau elusennol lleol yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys grwpiau megis y tîm pêl-droed ieuenctid, clybiau bowlio a chriced, i Hosbis Tŷ’r Eos a Thŷ Gobaith a llawer mwy.

Gwaith caled yn talu ar ei ganfed

Mae gwaith caled ac ymroddiad pawb sy’n rhan o greu Glyn Wylfa wedi talu ar ei ganfed ac wedi ei gydnabod sawl gwaith.

Am y ddwy flynedd ddiwethaf mae Glyn Wylfa wedi cyrraedd 10 Mentr Gymdeithasol Uchaf Natwest ar restr y DU. Roeddent yn y rownd derfynol yng Ngwobrau Menter Gymdeithasol Cymru ble aethant ymlaen ar gyfer Gwobrau Menter Gymdeithasol y DU 2021.

Gwahoddwyd Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau Glyn Wylfa, Brian Colley i’r Guildhall yn Llundain ar gyfer y gwobrau ble cawsant lwyddiant anferthol. Yma enillodd Glyn Wylfa Wobr Menter Gymdeithasol y DU 2021 – Categori 13 – gwobr Busnes Cymunedol Trawsnewidiol.

Dywedodd Mr Colley: “Ein staff a’n rheolwr gwych, Chris, sydd wedi bod gyda ni am bum mlynedd, sy’n gyfrifol am ein llwyddiant. Diolch yn fawr iawn i’n cyfarwyddwyr gwirfoddol sydd wedi rhoi cymaint o’u hamser i’n helpu a hefyd diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a chymuned wych y Waun. Mae gennym gymuned fendigedig ac mae’n bleser bod yn rhan ohoni”.

Dywedodd Mick Ramsey, Cadeirydd Glyn Wylfa Cyfyngedig: “Mae’r llwyddiant a gyflawnwyd yn llawer mwy nag unrhyw beth a ragwelwyd gennym ar ddechrau’r prosiect hwn sydd yn wych. Mae’n fendigedig i’r gymuned ac rydym yn cael cefnogaeth wych gan bobl y Waun. Rydym yn falch iawn o bopeth rydym wedi ei gyflawni”.

Y daith dywys

Bu i Faer Wrecsam, y Cynghorydd Ronnie Prince ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard, ymweld â Glyn Wylfa i ddiolch iddynt am eu gwaith parhaus yn y gymuned ac i’w llongyfarch ar ennill y wobr.

Yn ystod yr ymweliad, bu iddynt gwrdd ag aelodau o staff a gweld beth oedd yn digwydd yno. Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans a oedd hefyd yn bresennol: “Mae hyn yn rhywbeth y bu i mi a’r cyn gynghorydd a’r Maer, Ian Roberts, frwydro ar ei gyfer. Roedd gennym weledigaeth ar gyfer canolfan gymunedol a chawsom bobl leol i ddod i helpu i redeg y lle.

“Mae’r llwyddiant yn hollol ryfeddol. Maent wedi mynd o nerth i nerth ac wedi rhoi arian yn ôl i’r adeilad i barhau i wella a hefyd yn y gymuned i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Rwyf yn hynod o falch a lwyddiant Glyn Wylfa”.

Ar ôl gweld yr holl elfennau gwahanol sy’n dod â’r ganolfan gymunedol ynghyd, dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard: “Yn gyntaf dymunaf longyfarch pawb ar lwyddiant caffael ac adnewyddu’r adeilad ar gyfer defnydd cymunedol. Bu’n bartneriaeth cymunedol llwyddiannus iawn rhyngddynt hwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

“Rwy’n falch iawn o fod yma i ddathlu eu cyflawniad gwych o ennill y wobr a gweld y gwaith ardderchog sy’n digwydd yma. Hoffwn ddiolch a llongyfarch y sefydliad am weithio’n ddiflino gydag ymrwymiad ac ymroddiad i gyflawni’r holl nodau.”

“Hefyd hoffwn ddiolch i Brian a Mike am eu taith dywys o’r lle bendigedig hwn. Roedd yn wych gweld gwaith mor dda yn y gymuned”.

Roedd y Maer yn llawn edmygedd o weld beth sy’n digwydd o ddydd i ddydd yn Glyn Wylfa a dywedodd: “Bu’n brofiad gwych cael dod yma heddiw i gwrdd â’r staff anhygoel sy’n gweithio mor galed i gael effaith mor gadarnhaol ar y gymuned a dathlu eu gwobr sy’n llwyr haeddiannol.

“Rwyf wedi cael gweld y gwaith sy’n digwydd yno ac sydd wedi digwydd i greu’r prosiect rhagorol hwn. Edrychaf ymlaen at ymweld yn aml yn y dyfodol”.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Library Sioe ar Daith Iechyd a Lles 5 Mawrth
Erthygl nesaf Ukraine “Rydym ni’n cefnogi hawl Wcráin i fyw mewn heddwch ac yn rhydd” – Wrecsam yn anfon neges o gefnogaeth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English