Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Rydym ni’n cefnogi hawl Wcráin i fyw mewn heddwch ac yn rhydd” – Wrecsam yn anfon neges o gefnogaeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > “Rydym ni’n cefnogi hawl Wcráin i fyw mewn heddwch ac yn rhydd” – Wrecsam yn anfon neges o gefnogaeth
Pobl a lleArall

“Rydym ni’n cefnogi hawl Wcráin i fyw mewn heddwch ac yn rhydd” – Wrecsam yn anfon neges o gefnogaeth

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 11, 2022 5:37 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ukraine
RHANNU

Yn ddealladwy bydd nifer o bobl yn Wrecsam yn awyddus i wneud popeth a allant i gynnig cefnogaeth i bobl yn Wcráin sydd wedi eu dadleoli yn ystod cyfnod o angen. Mae’r haelioni a ddangoswyd wedi bod yn anhygoel.

Cynnwys
  • Gweddïo am heddwch
  • Meddyliau a gweddïau

Mae tudalen ganllaw Llywodraeth Cymru – Wcráin – Cefnogaeth i Bobl a Effeithir – yn disgrifio ffyrdd i helpu a hefyd yn darparu gwybodaeth bwysig ynglŷn â chymorth sydd ar gael i’r rhai a effeithiwyd gan y sefyllfa yn Wcráin.

❤

Mae Cyngor Wrecsam wedi anfon neges o gefnogaeth i Wcráin, wrth i weddill y byd barhau i annog Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin i atal ei oresgyniad.

Cychwynnodd ymosodiad y Kremlin ddydd Iau diwethaf, ac mae eisoes wedi achosi dioddef a therfysg eithriadol yn y rhanbarth.

Mae’r Cyngor yn bwriadu codi banner Wcráin y tu allan i Neuadd y Dref, a bydd yn goleuo’r adeilad yn lliwiau’r Wcráin i ddangos cydsafiad.

Gweddïo am heddwch

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:

“Rydym ni’n llwyr gefnogi ac yn cydsefyll ag Wcráin yn ystod y cyfnod anodd a thywyll yma.

“Mae dewrder a phenderfyniad pobl Wcráin wedi bod yn anhygoel, ac rydym ni gyd yn gobeithio ac yn gweddïo y bydd llywodraeth Rwsia yn sylweddoli bod ei gweithredoedd yn anghywir.

“Fe hoffem ni hefyd fynegi ein cefnogaeth i’r Rwsiaid sydd wedi siarad yn gyhoeddus yn erbyn Putin ac sydd eisiau byw mewn heddwch gyda’u cymdogion yn Wcráin.

“Mae angen dewrder i siarad yn erbyn y llywodraeth yn Rwsia, ac ni ddylem anghofio nad yw llawer o bobl Rwsia eisiau’r rhyfel yma, ac fe fyddan nhw’n dioddef hefyd.

“Rydym ni’n gweddïo dros Wcráin, ac rydym ni’n gweddïo y bydd heddwch a thrugaredd yn goresgyn.”

Meddyliau a gweddïau

Dywedodd Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:

“Rydym ni eisiau i bobl Wcráin wybod ein bod ni gyda nhw – ein bod ni’n cefnogi eu hawl i fyw eu bywydau mewn heddwch ac yn rhydd.

“Mae’r hyn mae llywodraeth Rwsia wedi ei wneud yn anghywir. Mae bywydau wedi cael eu difetha, mae teuluoedd wedi cael eu chwalu ac mae dyfodol pobl wedi cael ei gymryd oddi arnynt mewn dim.

“Mae’r digwyddiadau rydym ni’n eu gweld yn ofnadwy, ac mae’n meddyliau a gweddïau gyda phawb sydd yn dioddef.

“Efallai mai bwrdeistref sirol fechan yng ngogledd Cymru ydi Wrecsam, ond fel gweddill Cymru a’r DU, rydym ni’n cyd-sefyll gydag Wcráin.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mayor Visiting Gyn Wylfa Cydnabyddiaeth ar gyfer menter gymdeithasol yn y Waun
Erthygl nesaf lan £2,783,050 i wella mynediad a fforddiadwyedd i Lety Rhent Preifat

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English