Unwaith eto mae Wrecsam wedi cadw ei Faneri Gwyrdd sy’n cael eu gwobrwyo bob blwyddyn gan Gadwch Gymru’n Daclus.
Mae’r wobr yn dangos i’r cyhoedd bod y man hwnnw yn bodloni’r safonau amgylchedd uchaf posib, yn cael ei gynnal a’i gadw’n hyfryd ac yn meddu ar gyfleusterau ymwelwyr da.
“Felly pwy sy’n cael hedfan y Faner Werdd?”
Mae’r anrhydedd yn cael ei rhoi i Barc Acton, Dyfroedd Alun, Y Parciau, Cefnau Ponciau, Tŷ Mawr a Mynwent Wrecsam.
Cafodd y rhain Wobrau Cymunedol:
Maes y Pant, Plas Pentwyn a Mynwent Eglwys y Santes Fair, y Waun
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hyn yn newyddion gwych ac yn deyrnged wych i’r staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn cadw’r baneri mawreddog yn ystod cyfnod heriol iawn yn ariannol.”
“Mae ein parciau’n ardaloedd y gallwn ymfalchïo ynddynt, ac wrth i’r gwyliau haf ddechrau rŵan, rwy’n annog cymaint o bobl â phosib i fynd allan a mwynhau’r ardaloedd hyn, gallwn i gyd eu mwynhau am ddim.”
Dywedodd Paul Todd, Rheolwr Cynllun Gwobr y Faner Werdd: “Mae’n wych bod gennym fwy o Wobrau’r Faner Werdd yn y DU nac erioed o’r blaen, ac eleni mae 126 o enillwyr rhyngwladol hefyd. Mae bob baner yn deyrnged i’r miloedd o staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal a chadw’r safonau uchel sy’n rhan o ofynion Gwobr y Faner Werdd. Rydym yn llongyfarch bob enillydd am gyflawniad gwych.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN