Rydym yn recriwtio Swyddogion Gofal Plant Preswyl i weithio yn ein canolfan seibiant pobl ifanc yn Rhodfa Tapley, Wrecsam.
Byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag ymddygiad emosiynol a heriol i gefnogi pob agwedd o’u gofal a’u helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
- Sefydlu, datblygu a chynnal perthnasoedd proffesiynol â phlant a phobl ifanc drwy oruchwyliaeth uniongyrchol, gweithgareddau ar y cyd a chwnsela, er mwyn bodloni anghenion y plentyn/unigolyn ifanc.
- Sefydlu, datblygu a chynnal perthnasoedd proffesiynol da gyda theulu’r plentyn/unigolyn ifanc.
- Diwallu unrhyw anghenion meddygol fel yr amlinellwyd mewn cynlluniau gofal a’r rheoliadau cartrefi plant
- Darparu gofal sylfaenol o ansawdd dda sy’n diwallu anghenion sylfaenol, hyrwyddo datblygiad, darparu profiad meithringar, cynorthwyo ag anawsterau a gwendidau ymddygiadol, ac sydd hefyd yn hyrwyddo’r defnydd pwrpasol o amser hamdden.
- Gweithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer plant/pobl ifanc a theuluoedd penodol.
- Rhoi gwybod i uwch reolwyr am unrhyw bryder ynglŷn â phlant neu bobl ifanc gan gyfeirio yn benodol at unrhyw beryglon o gamdriniaeth neu niwed yn yr Uned neu’r tu allan iddo.
- Hyrwyddo anghenion addysgol a datblygu cyfranogiad cadarnhaol mewn darpariaeth addysgol.
- Hyrwyddo sgiliau annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol.
Gwybodaeth gyffredinol am y swydd
Mae hon yn swydd 5 diwrnod yr wythnos ar rota, ac mae hefyd yn cynnwys dyletswyddau cysgu i mewn ac ar-alwad fel bo angen. Bydd hyn yn cynnwys gweithio dros benwythnosau, Gwyliau Banc a gyda’r nosau/dros nos yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod digon o staff yn yr uned 24 awr / 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn cylchdro bod yn effro drwy’r nos. Bydd hyn yn cynnwys gweithio dros benwythnosau, Gwyliau Banc a dros nos yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod digon o staff yn yr uned pan fydd y cartref ar agor.
Y cyflog yw G07 SCP 17 – 20 £24,491 – £25,991 y flwyddyn
Mae 4 swydd llawn amser ac un rhan amser (18.5 awr) ar gael.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â chymhwyster NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gofal Plant) neu gyda’r gallu a’r ymroddiad i’w gael wrth gael eich penodi.
Bydd arnoch angen gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o anghenion a dymuniadau pobl ifanc mewn angen, dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â gweithio gyda phlant ifanc a gallu gweithio gyda phobl ifanc, eu rhieni ac ar sail aml-asiantaeth.
Byddwch yn llawn cymhelliant, gyda sgiliau cyfathrebu gwych, gallu gweithio dan bwysau a bod yn barod i barhau â’ch datblygiad proffesiynol.
Am wybod mwy?
Cymerwch gip ar y cyfle hwn ar ein gwefan
Canolfan Seibiant Rhodfa Tapley
Mae Canolfan Seibiant Rhodfa Tapley yn wasanaeth sy’n cynnig seibiant drwy’r flwyddyn, wedi’i gynllunio, i blant a phobl ifanc ag anabledd rhwng 6 a 17 oed. Mae hyn yn cynnwys anableddau corfforol a dysgu, amhariadau synhwyraidd a/neu salwch cronig. Mae eu hystod o gyfleusterau a thîm o staff ymroddgar yn sicrhau y gallant fodloni anghenion yr holl blant yn eu gofal.
Cynigir seibiant ar ffurf sesiynau ac aros dros nos.