Mae pawb yn brysur wrth i Wrecsam baratoi unwaith eto i roi cynnig ar y categori Cymru yn ei Blodau ac rydym yn gobeithio ennill y wobr Aur eto.
Fel rhan o’r paratoadau, ac i ddathlu’r ffaith fod Taith Prydain yn dod i’r ardal fis Medi, rydym wedi creu arddangosfeydd gweledol unigryw o hen feiciau lliwgar a fydd yn cael eu defnyddio i arddangos blodau. Mae llawer o waith yn cael ei wneud nawr yn ein planwyr ledled canol y ddinas i sicrhau y gall y beirniaid weld drostynt eu hunain yr amgylchedd deniadol y gall ymwelwyr â chanol y ddinas ei fwynhau.
Hefyd byddwn yn creu llwybr o amgylch y ddinas a byddwn yn gofyn i ysgolion wneud arddangosfeydd blodau allan o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu y gellir eu gosod yn ffenestri’r siopau. Bydd y rhain wedyn yn rhan o’r llwybr y gall plant ei ddilyn o amgylch canol y ddinas.
Bydd y beirniaid yn ymweld â ni ar Orffennaf 11 gan ddechrau yn Holt ac yna byddant yn mynd i’r Ystâd Ddiwydiannol i weld y gwaith gwych mae CSFf wedi ei wneud o amgylch eu safle gwastraff gan greu pyllau, cychod gwenyn, gosod paneli solar a hyd yn oed darganfod math o degeirian prin. Oddi yno fe fyddant yn mynd ymlaen i Ysgol Uwchradd Rhosnesni lle byddant yn gweld eu Gardd Synhwyraidd a rhandir sydd newydd ei greu cyn gorffen yng nghanol y ddinas.
Un o elfennau mwyaf Cymru yn ei Blodau yw ymgysylltu â’r gymuned
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Rydym wedi gwneud cymaint o waith dros y blynyddoedd diwethaf gan blannu coed, creu dolydd blodau gwyllt a newid ein cyfundrefn gynnal a chadw i annog bywyd gwyllt a gwella systemau ecolegol yn ogystal â lleihau ein hôl troed carbon.
“Ond nid dim ond ein hymdrechion ni y mae’r beirniaid eisiau ei weld. Un o elfennau mwyaf Cymru yn ei Blodau yw ymgysylltu â’r gymuned. Rydym eisiau i breswylwyr a’r gymuned ar y llwybr ac ar hyd a lled Wrecsam i gysylltu a rhoi gwybod i ni beth maent yn ei wneud i wella eu hardal. Fe all fod yn gasglu sbwriel, plannu planhigion mewn basgedi a gosod basgedi crog i wella eu hardal neu greu arddangosfeydd blodau.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae gennym ni ganol dinas sy’n ddeniadol iawn i ymwelwyr ac mae’n wych i weld cymaint o weithgarwch o ran plannu ar hyn o bryd wrth baratoi ar gyfer y beirniaid.
“Bydd yr hwb economaidd a ddaw yn sgil Taith Prydain yn rhywbeth ychwanegol eto i fasnachwyr a’n busnesau lletygarwch ac mae’n addas iawn i gael profiad ehangach i ymwelwyr ei fwynhau.”