Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae ap CThEF ar gael yn Gymraeg
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae ap CThEF ar gael yn Gymraeg
Pobl a lleArall

Mae ap CThEF ar gael yn Gymraeg

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 7, 2023 12:04 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Mae diweddariadau wedi’u hanfon i ap Cyllid a Thollau EF (CThEF), gan roi mynediad at y rhan fwyaf o’r gwasanaethau sydd ar gael ar y platfform yn Gymraeg am y tro cyntaf.

O Hunanasesiad i’r gwasanaeth Talu Wrth Ennill, gellir defnyddio’r rhan fwyaf o adnoddau ar yr ap yn Gymraeg nawr, yn dilyn y gwaith uwchraddio a gafodd ei gyflwyno yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae ap CThEF wedi cael ei ddefnyddio gan fwy na phedair miliwn o bobl, gan helpu cwsmeriaid i ddarganfod gwybodaeth am eu treth, Yswiriant Gwladol, credydau treth a mwy.

Meddai Lee Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg CThEF, “Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio ap CThEF a chefnogi anghenion Cymraeg ein cwsmeriaid.

“Gweithiodd Uned Gymraeg CThEF yng Nghaerdydd yn aruthrol o galed, ynghyd â chydweithwyr digidol ledled y DU, i gyflawni’r prosiect hwn.

“Rydym yn hynod falch bod ap CThEF bellach ar gael yn Gymraeg.”

Er mwyn defnyddio ap CThEF yn Gymraeg, y cyfan mae angen i chi ei wneud yw clicio ar eicon y gosodiadau, sy’n edrych fel “gêr”, yn y gornel dde uchaf a sgrolio i lawr i’r adran “iaith” lle y gellir toglo ar y Gymraeg. Ar bob tudalen sydd ar gael yn Gymraeg, bydd eicon “CYM” yn ymddangos yn y gornel dde uchaf. Bydd cyffwrdd â’r eicon hwnnw yn trosi’r geiriau sy’n cael eu harddangos i’r Gymraeg. Yna bydd “ENG” yn ymddangos yng nghornel dde uchaf y sgrin Gymraeg, a bydd ei gyffwrdd yn newid y dudalen i’r Saesneg.

Yn ogystal â’r ap, mae CThEF yn cefnogi cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg mewn ffyrdd eraill.  Mae’r tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg ym Mhorthmadog, a’n Llinell gymorth TAW ac Ecséis yng Nghaerdydd, yn rhoi cyngor i gwsmeriaid sy’n dymuno cyfathrebu â CThEF yn Gymraeg ar ystod eang o faterion treth.

Mae’r Uned Gymraeg yn darparu gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig i CThEF. Mae hefyd yn cydlynu holl ofynion CThEF o ran y Gymraeg, ac yn rhoi cyngor iddo.

Mae cydweithwyr a siaradwyr Cymraeg hefyd ar gael ledled CThEF i gefnogi gwasanaethau cwsmeriaid ac adennill dyledion drwy’r Gymraeg.

Rhannu
Erthygl flaenorol Woodland Connections Wythnos Cysylltiadau Coetir, 17 Mehefin i 24 Mehefin
Erthygl nesaf Wales in Bloom Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English