Oeddech chi’n gwybod mai mis Medi yw Mis Dal y Bws? Mae’n ddathliad mis o hyd o’r gwasanaethau anhygoel, cynaliadwy, fforddiadwy sy’n gwella bywyd y mae bysiau yn eu darparu i’n cymunedau.
Mae llawer o fanteision i ddefnyddio bws. Mae bysus yn helpu i leihau tagfeydd, yn cael gwared ar y straen o yrru, ac yn gwella cyfleoedd i ymlacio ar eich cymudo dyddiol, megis trwy ddarllen neu wrando ar gerddoriaeth.
Gall mynd ar y bws hefyd eich helpu i symud mwy trwy gynyddu cerdded neu olwyno, a all fod o fudd i’ch iechyd corfforol a meddyliol.
Fel cyngor lleol, rydym yn cefnogi Mis Dal y Bws fel rhan o’n hymrwymiad i Siarter Teithio Iach Gogledd Cymru, ac rydym yn gwahodd ein trigolion i gymryd rhan hefyd.
Mae’r Siarter Teithio Iach yn ymrwymiad i wella opsiynau teithio iach a chynaliadwy megis cerdded, olwyno neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus.
Mae’r siarter yn nodi sut y gall sefydliadau godi ymwybyddiaeth o fanteision teithio iach, a chynyddu cyfleoedd drwy gynnig pethau fel cynlluniau beicio i’r gwaith neu weithio hyblyg.
Wedi ymrwymo i hyrwyddo teithio cynaliadwy ac iach
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr Hinsawdd: “Fel rhan o Fis Dal y Bws, rydym yn annog pobl i neidio ar y bws pan fyddant yn ymweld â lleoliadau’r cyngor, gan gynnwys ein swyddfeydd yng nghanol y ddinas, Tŷ Pawb a’n llyfrgelloedd.
“Yn gynharach eleni fe wnaethom ymrwymo i Siarter Iach Gogledd Cymru gan ein bod yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo teithio cynaliadwy ac iach er mwyn lleihau allyriadau carbon, gwella ansawdd aer, a gwella iechyd a lles.
“Datblygwyd y siarter gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rydym yn falch o fod wedi ymrwymo iddi fel rhan o’n haelodaeth o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam a Sir y Fflint.
“Er bod manteision mawr i deithio ar fws, nid dyma’r unig ffordd i deithio’n gynaliadwy. Mae cerdded, beicio neu olwyno, defnyddio trenau a theithio i gyd yn ffyrdd y gallwn leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, a gwella ein hiechyd a’n lles corfforol a meddyliol.”
Lle ydym ni arni?
Yn dilyn ein hadolygiad fel aelod o Siarter Teithio Iach Gogledd Cymru, rydym yn falch o ddweud ein bod yn perfformio’n dda ar:
- Bod â pholisi costau teithio sy’n annog gweithwyr y cyngor i gerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus neu rannu ceir lle bo’n bosibl, yn lle gyrru eu car eu hunain.
- Cynnig cynllun beicio i’r gwaith i’n staff a gwella mynediad at feiciau yn y gwaith (mae gennym fflyd o feiciau y gall staff eu defnyddio i deithio i gyfarfodydd, ymweliadau safle a theithiau eraill yn y gwaith).
- Darparu opsiynau gweithio hyblyg lle bynnag y bo modd – gan helpu i leihau’r angen i staff deithio.
- Bod yn ymwybodol o’n hangen nawr ac yn y dyfodol am wefru cerbydau trydan ac e-feiciau ar ein safleoedd. Mae gennym ni nifer o wefrwyr trydan yn eu lle yn barod, ac rydyn ni’n edrych i weld lle mae angen gosod gwefrwyr ychwanegol.
Rydym hefyd yn cynllunio:
- Mwy o hyrwyddo opsiynau teithio llesol a chynaliadwy, megis cerdded a beicio, i brif safleoedd ein cyngor.
Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar ein modiwl hyfforddi staff, a’n bwletinau staff rheolaidd sy’n hyrwyddo pethau fel Cerdded ar Ddydd Mercher ac Wythnos y Beic.
Dywedodd Dr Jane Moore, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Gall dewis opsiynau teithio llesol – gan gynnwys dal y bws – ein helpu ni i gyd i wneud mwy o ymarfer corff a gwella ein hiechyd meddwl a chorfforol. Mae hefyd yn helpu i leihau tagfeydd yn ein strydoedd a’n cymunedau, gan olygu llai o draffig ac aer glanach.
“Mae Cyngor Wrecsam yn cymryd rhai camau cadarnhaol iawn i helpu i’w gwneud hi’n haws i bobl ddewis cerdded, defnyddio olwynion neu feicio, neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae’n wych bod y cyngor wedi ymrwymo i Siarter Teithio Iach Gogledd Cymru, ac yn hyrwyddo Mis Dal y Bws y mis Medi hwn.
“Byddwn yn annog pobl yn Wrecsam i feddwl sut y gallant ddefnyddio llai ar y car. Gall fod yn rhatach, a helpu i wneud i ni a’n hanwyliaid deimlo’n well hefyd.”
Gallwch ddysgu mwy am pam mae teithio iach yn bwysig ar wefan Teithio Iach Cymru.
Gallwch hefyd ddarganfod mwy am wneud dewisiadau teithio gwyrdd gan Gweithredu ar Newid Hinsawdd.