Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rydyn ni wedi ymuno â Mis Dal y Bws…ydych chi?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rydyn ni wedi ymuno â Mis Dal y Bws…ydych chi?
Pobl a lle

Rydyn ni wedi ymuno â Mis Dal y Bws…ydych chi?

Diweddarwyd diwethaf: Medi 18, 2024 4:22 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Bus travel
RHANNU

Oeddech chi’n gwybod mai mis Medi yw Mis Dal y Bws? Mae’n ddathliad mis o hyd o’r gwasanaethau anhygoel, cynaliadwy, fforddiadwy sy’n gwella bywyd y mae bysiau yn eu darparu i’n cymunedau.

Cynnwys
  • Wedi ymrwymo i hyrwyddo teithio cynaliadwy ac iach
  • Lle ydym ni arni?

Mae llawer o fanteision i ddefnyddio bws. Mae bysus yn helpu i leihau tagfeydd, yn cael gwared ar y straen o yrru, ac yn gwella cyfleoedd i ymlacio ar eich cymudo dyddiol, megis trwy ddarllen neu wrando ar gerddoriaeth.

Gall mynd ar y bws hefyd eich helpu i symud mwy trwy gynyddu cerdded neu olwyno, a all fod o fudd i’ch iechyd corfforol a meddyliol.

Fel cyngor lleol, rydym yn cefnogi Mis Dal y Bws fel rhan o’n hymrwymiad i Siarter Teithio Iach Gogledd Cymru, ac rydym yn gwahodd ein trigolion i gymryd rhan hefyd.

Mae’r Siarter Teithio Iach yn ymrwymiad i wella opsiynau teithio iach a chynaliadwy megis cerdded, olwyno neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

Mae’r siarter yn nodi sut y gall sefydliadau godi ymwybyddiaeth o fanteision teithio iach, a chynyddu cyfleoedd drwy gynnig pethau fel cynlluniau beicio i’r gwaith neu weithio hyblyg.

Wedi ymrwymo i hyrwyddo teithio cynaliadwy ac iach

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr Hinsawdd: “Fel rhan o Fis Dal y Bws, rydym yn annog pobl i neidio ar y bws pan fyddant yn ymweld â lleoliadau’r cyngor, gan gynnwys ein swyddfeydd yng nghanol y ddinas, Tŷ Pawb a’n llyfrgelloedd.

“Yn gynharach eleni fe wnaethom ymrwymo i Siarter Iach Gogledd Cymru gan ein bod yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo teithio cynaliadwy ac iach er mwyn lleihau allyriadau carbon, gwella ansawdd aer, a gwella iechyd a lles.

“Datblygwyd y siarter gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rydym yn falch o fod wedi ymrwymo iddi fel rhan o’n haelodaeth o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam a Sir y Fflint.

“Er bod manteision mawr i deithio ar fws, nid dyma’r unig ffordd i deithio’n gynaliadwy. Mae cerdded, beicio neu olwyno, defnyddio trenau a theithio i gyd yn ffyrdd y gallwn leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, a gwella ein hiechyd a’n lles corfforol a meddyliol.”

Lle ydym ni arni?

Yn dilyn ein hadolygiad fel aelod o Siarter Teithio Iach Gogledd Cymru, rydym yn falch o ddweud ein bod yn perfformio’n dda ar:

  • Bod â pholisi costau teithio sy’n annog gweithwyr y cyngor i gerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus neu rannu ceir lle bo’n bosibl, yn lle gyrru eu car eu hunain.
  • Cynnig cynllun beicio i’r gwaith i’n staff a gwella mynediad at feiciau yn y gwaith (mae gennym fflyd o feiciau y gall staff eu defnyddio i deithio i gyfarfodydd, ymweliadau safle a theithiau eraill yn y gwaith).
  • Darparu opsiynau gweithio hyblyg lle bynnag y bo modd – gan helpu i leihau’r angen i staff deithio.
  • Bod yn ymwybodol o’n hangen nawr ac yn y dyfodol am wefru cerbydau trydan ac e-feiciau ar ein safleoedd. Mae gennym ni nifer o wefrwyr trydan yn eu lle yn barod, ac rydyn ni’n edrych i weld lle mae angen gosod gwefrwyr ychwanegol.

Rydym hefyd yn cynllunio:

  • Mwy o hyrwyddo opsiynau teithio llesol a chynaliadwy, megis cerdded a beicio, i brif safleoedd ein cyngor.

Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar ein modiwl hyfforddi staff, a’n bwletinau staff rheolaidd sy’n hyrwyddo pethau fel Cerdded ar Ddydd Mercher ac Wythnos y Beic.

Dywedodd Dr Jane Moore, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Gall dewis opsiynau teithio llesol – gan gynnwys dal y bws – ein helpu ni i gyd i wneud mwy o ymarfer corff a gwella ein hiechyd meddwl a chorfforol. Mae hefyd yn helpu i leihau tagfeydd yn ein strydoedd a’n cymunedau, gan olygu llai o draffig ac aer glanach.

“Mae Cyngor Wrecsam yn cymryd rhai camau cadarnhaol iawn i helpu i’w gwneud hi’n haws i bobl ddewis cerdded, defnyddio olwynion neu feicio, neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae’n wych bod y cyngor wedi ymrwymo i Siarter Teithio Iach Gogledd Cymru, ac yn hyrwyddo Mis Dal y Bws y mis Medi hwn.

“Byddwn yn annog pobl yn Wrecsam i feddwl sut y gallant ddefnyddio llai ar y car. Gall fod yn rhatach, a helpu i wneud i ni a’n hanwyliaid deimlo’n well hefyd.”

Gallwch ddysgu mwy am pam mae teithio iach yn bwysig ar wefan Teithio Iach Cymru.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am wneud dewisiadau teithio gwyrdd gan Gweithredu ar Newid Hinsawdd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynnig 60 Oed a hyn: Cynllun Hamdden Actif 60+ Cynnig 60 Oed a hyn: Cynllun Hamdden Actif 60+
Erthygl nesaf bid writing Estyniad ar gyfer ceisiadau cefnogi ysgrifennu bid

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English