Mae swyddogion yn rhybuddio fod sgamwyr yn gweithredu yn ardal Wrecsam drwy werthu setiau teledu wedi malu ac yn gwneud arian ohonyn nhw.
Mewn achos diweddar daeth 2 ddyn i fyny at ŵr wrth iddo roi petrol yn ei gar mewn garej lleol.
Dywedodd y sgamwyr wrth y dioddefwr eu bod nhw’n cludo nwyddau gan gyfeirio at y cwmni Amazon.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Dyma nhw’n dweud oherwydd y sefyllfa bresennol gyda COVID bod yna stoc dros ben o setiau teledu yr oedden nhw’n eu dychwelyd i’r warws lle byddan nhw’n cael eu sgrapio.
Roedd y sgamwyr wedi rhoi y dioddefwr mewn lle cas. Roedden nhw’n llawn perswâd ac yn ddarbwyllol, gan grybwyll pris o £100 am deledu newydd sbon.
Fe dynnodd y dioddefwr £100 allan o’r banc a thalu’r sgamwyr, ac mi gafodd y teledu ei roi ym mŵt y car yn sydyn. Ar ôl dadorchuddio haenau a haenau o seloffen a phapur swigod fe sylwodd y dioddefwr bod y sgrin wedi malu.
Os byddwch yn dod ar draws y masnachwyr twyllodrus hyn cysylltwch â’r Heddlu ar y llinell ffôn 101 (heb fod yn argyfwng) fel bod modd cymryd camau gweithredu priodol. Cofnodwch gymaint o fanylion ag sy’n bosib am yr unigolion, eu cerbyd ac unrhyw enwau a gynigir.
CANFOD Y FFEITHIAU