Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Safonau Masnach yn atafaelu dros 30,000 o sigaréts anghyfreithlon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Safonau Masnach yn atafaelu dros 30,000 o sigaréts anghyfreithlon
FideoY cyngor

Safonau Masnach yn atafaelu dros 30,000 o sigaréts anghyfreithlon

Diweddarwyd diwethaf: 2022/09/06 at 12:53 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
RHANNU

Yr wythnos ddiwethaf atafaelodd swyddogion Safonau Masnach gyda chymorth Heddlu Gogledd Cymru swm sylweddol o faco anghyfreithlon o wahanol ardaloedd yn Wrecsam.

Atafaelwyd dros 30,000 o sigaréts, swm o faco a £10,000 mewn arian parod fel rhan o Ymgyrch Cece a oedd yn anelu at darfu hyd yr eithaf ar y fasnach faco anghyfreithlon.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Roedd yr ymgyrch ddiweddaraf hon yn dilyn ymgyrchoedd eraill a gynhaliwyd dros y 18 mis diwethaf i dargedu cyflenwadau o faco anghyfreithlon yn ein cymunedau gyda’r nod o atafaelu’r cynnyrch, tarfu ar y farchnad a lle bo hynny’n briodol cymryd camau cyfreithiol, yn cynnwys erlyn y delwyr.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae ysmygu’n achosi mwy o farwolaethau cynamserol yn y DU nag unrhyw beth arall ac yn lladd tua 5,000 o bobl yn y DU bob blwyddyn. Mae llawer o bobl yn dioddef salwch ac anableddau hirdymor o ganlyniad uniongyrchol i’r ffaith eu bod yn ysmygu. Er bod cyfraddau ysmygu yng Nghymru a gweddill y DU wedi bod yn gostwng yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y bobl ifanc yn eu harddegau sy’n ysmygu wedi aros yr un fath. Bob dydd mae tua 30 o blant yn yng Nghymru yn dechrau ysmygu.

Dywedodd Swyddog Arweiniol Safonau Masnach a Thrwyddedu Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Wrecsam, Roger Mapleson: “Mae baco anghyfreithlon yn fygythiad oherwydd bod ei bris isel a’i argaeledd yn golygu bod modd i blant gael gafael ar sigaréts yn rhwydd a bod mewn perygl wedyn o fod yn gaeth iddynt am oes; mae hefyd yn ei gwneud yn anoddach i bobl sydd eisoes yn ysmygwyr roi’r gorau i’r arfer.  Does dim ots gan werthwyr baco anghyfreithlon i bwy maen nhw’n ei werthu ac mae plant yn darged proffidiol.

“Mae o leiaf 1 plentyn o bob 3 sy’n arbrofi gydag ysmygu’n mynd ymlaen i fod yn gaeth i sigaréts. Mae’r rhan fwyaf o oedolion sy’n ysmygu eisiau rhoi’r gorau iddi ond mae sigaréts rhad, hawdd eu prynu yn ormod o demtasiwn ac yn gallu ei gwneud yn llawer anoddach iddyn nhw wneud hynny. Mae’n rhaid i ni helpu ein cymunedau lleol i gael gwared ar faco anghyfreithlon. Mae’n cael ei gyflenwi fel rhan o weithgaredd troseddol trefnedig sy’n gysylltiedig â gweithgareddau troseddol eraill yn cynnwys cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, smyglo a chaethwasiaeth fodern.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Os ydych yn gweld, neu’n gwybod bod baco rhad yn cael ei werthu mewn siopau, o dai preifat neu dafarndai, yn y gweithle neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, helpwch i ddiogelu ein cymunedau a rhowch wybod i ni. Gallwch wneud hyn yn gyfrinachol ar lein neu gallwch ffonio 029 2049 0621.”

ragor o wybodaeth am faco anghyfreithlon ewch i yma.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH

Safonau Masnach yn atafaelu dros 30,000 o sigaréts anghyfreithlon

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Visitor Information Centre Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr Newydd yn helpu i ddangos y gorau o Wrecsam
Erthygl nesaf carer pouring a cup of Gofalwyr di-dâl – dweud eich dweud

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

housing repairs van
Y cyngor

Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!

Gorffennaf 11, 2025
Waste Collections
Y cyngor

Casgliadau biniau ddydd Gwener, Gorffennaf 11

Gorffennaf 9, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English