Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i osod 100 o flychau nyth mewn lleoliadau addas ar hyd a lled y sir.
Mae gwenoliaid yn anhygoel! Nhw yw’r adar cyflymaf sy’n hedfan ar lefel gyson ac maent yn treulio’r flwyddyn gyfan bron yn llwyr yn yr awyr, gan hedfan miliynau o filltiroedd yn ystod eu hoes wrth iddynt fudo dros yr haf o Affrica i Ewrop bob blwyddyn i fagu. I nifer mae gweld adenydd hanner cylch y gwenoliaid a’u galwadau traw uchel arbennig yn nodi dechrau’r haf.
Yn anffodus nid yw sefyllfa’r gwenoliaid yn dda o gwbl a chredir mai’r wennol yw un o’r adar gyda’i niferoedd yn gostwng fwyaf yng Nghymru gyda gostyngiad o 72% ers 1995. Credir fod y dirywiad hwn o ganlyniad i gyfuniad o lai o drychfilod, sy’n golygu llai o fwyd i wenoliaid, yn ogystal â cholli safleoedd addas i nythu.
Wrth i hen goed mawr gael eu colli i raddau helaeth o’n tirwedd dros filoedd o flynyddoedd, mae gwenoliaid wedi newid o nythu yn nhyllau coed i nythu mewn tyllau adeiladau. Fodd bynnag, mae’r safleoedd nythu hyn mewn adeiladau o dan fygythiad yn barhaus.
Mae diogelu safleoedd nythu presennol ar gyfer gwenoliaid yn bwysig
Mae adeiladau hŷn yn aml yn cael eu hadnewyddu ac felly mae nythod sydd wedi sefydlu yn cael eu symud a thyllau yn cael eu cau. Fel arfer nid oes gan gynlluniau tai newydd y tyllau a’r cilfachau y gall gwenoliaid wneud eu nythod ynddynt. Dyma pam yn ogystal â diogelu safleoedd nythu gwenoliaid presennol mae’n hollbwysig ein bod yn creu rhai newydd!
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru drwy ei raglen ariannu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, bydd y prosiect hwn yn gosod o leiaf 100 o flychau nythu ar adeiladau addas ar hyd a lled Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Bydd rhai o’r blychau nythu hefyd yn cynnwys seinyddion a fydd yn chwarae sŵn galwad y gwenoliaid gan y gwyddwn fod hyn yn helpu i ddenu gwenoliaid.
Mae gwenoliaid yn aml yn nythu yn ymyl gwenoliaid eraill felly os gwyddoch chi am safleoedd lle mae gwenoliaid yn nythu ar hyn o bryd cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gan y gall ein helpu ni i leoli’r safleoedd gorau yn y sir ar gyfer blychau nythu gwenoliaid newydd.
Dywedodd Sarah Ellis, Swyddog Tirwedd Fyw Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru “Mae gwenoliaid yn adar mor wych ond mae angen cymorth arnynt ar frys. Rydym mor falch o allu cyflawni’r prosiect hwn gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a gyda’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Wenoliaid yn cychwyn ar 29 Mehefin mae’n wych ein bod yn chwarae rhan yn y gwaith o warchod gwenoliaid.”
Dywedodd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam “Mae cynyddu safleoedd nythu i wenoliaid yn hanfodol ar gyfer eu hadferiad ac rydym yn falch iawn o allu cael y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i allu ariannu’r prosiect hwn. Mae’n un o nifer o brosiectau pwysig rydym yn eu cyflawni drwy ein cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i gynorthwyo adferiad natur yn y sir.”
Os oes gennych chi ddiddordeb yn ein helpu ni i achub gwenoliaid yn Wrecsam, fe fydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cynnal dau ddigwyddiad rhad ac am ddim lle gallwch ddysgu popeth am wenoliaid a sut i’n helpu ni i’w cofnodi a’u monitro. Bydd y digwyddiadau yng Nghanolfan Adnoddau Plas Pentwyn, Coedpoeth ar 10 Gorffennaf ac yn Neuadd Kenyon yn Holt ar 16 Gorffennaf, y ddau’n dechrau am 7:00 PM.
Bydd y ddau ddigwyddiad yn cynnwys sgwrs ar wenoliaid ac wedi hynny taith gerdded i’r rhai hynny sydd eisiau gweld yr adar go iawn, yn dibynnu ar y tywydd. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch le drwy wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru o dan Dyddiau Allan
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn dychwelyd gyda’r thema “Ceisio Noddfa”