Mae bron i 50 o blant 9-14 oed o ardal Wrecsam wedi cymryd rhan mewn cyfres o ddosbarthiadau meistr celfyddydau ar-lein a drefnwyd gan Tŷ Pawb.
Cynhaliwyd 12 dosbarth meistr Criw Celf dros hanner tymor yn dilyn galw digynsail am leoedd. Cyflwynwyd y gweithdai ar-lein trwy zoom gydag artistiaid proffesiynol, Wendy Connelly, Honor Pedican, Melissa Rodrigues a Menai Rowlands.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Dosbarthwyd pecynnau celf yn cynnwys yr holl ddeunyddiau yr oedd eu hangen i gymryd rhan i’r holl gyfranogwyr cyn y gweithdai.
Roedd y technegau artistig a archwiliwyd yn cynnwys gwneud printiau, stensiliau a chrefft papur, dylunio cymeriad 3D, tecstilau, dyfrlliwiau, gwneud ffau 3D a phortreadau olew.
Cynllun cenedlaethol i feithrin talent ifanc