Ni fydd unrhyw newidiadau i gasgliadau bin ar ddydd Llun gŵyl y banc (26 Awst), felly os mai dydd Llun yw eich diwrnod casglu, rhowch eich biniau a’ch ailgylchu allan fel arfer.
Gwiriwch pa ddiwrnod y mae eich biniau yn cael eu casglu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich casgliadau
Wyddoch chi y gallwch chi wirio pryd mae eich casgliadau bin diweddaraf yn syml trwy deipio eich cod post neu stryd?
Mae’r cyfleuster Gwirio’ch diwrnod casglu biniau yn ffordd wych o gael gwybod yn union pryd mae’ch biniau yn cael eu casglu, a gall fod yn arbennig o ddefnyddiol ar adegau pan fyddwch yn gweld newidiadau i’ch patrwm casglu arferol, megis dros gyfnod y Nadolig.
Ni fydd angen i chi fewngofnodi i wirio’ch diwrnod casglu biniau, a gallwch wirio ar ran eich ffrindiau, aelodau o’ch teulu a chymdogion hefyd.
Ffordd arall o gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chasgliadau biniau yw cofrestru i dderbyn negeseuon atgoffa trwy e-bost. Trwy wneud hyn, fe gewch chi neges e-bost i’ch atgoffa i roi’ch biniau allan y diwrnod cyn y diwrnod casglu. Mae’n ffordd dda i ni adael i chi wybod ynglŷn ag unrhyw newidiadau sy’n effeithio arnoch chi hefyd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar fêps mewn ffordd gyfrifol – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.