Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar fêps mewn ffordd gyfrifol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar fêps mewn ffordd gyfrifol
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar fêps mewn ffordd gyfrifol

Diweddarwyd diwethaf: Awst 20, 2024 1:29 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
fêps
RHANNU

A ydych yn defnyddio fêps? Os felly, mae’n hollbwysig eich bod yn gwybod sut i gael gwared arnyn nhw yn y ffordd gywir a diogel. Mae Recycle Your Electricals yn dweud bod hanner fêps untro’n cael eu taflu i’r bin (dros 5 miliwn yr wythnos) yn y DU, sy’n bryderus iawn.

Cynnwys
  • Mae hyn yn gallu achosi tannau
  • Beth i’w wneud gyda fêps a ddefnyddiwyd
  • Beth i’w wneud gyda batris
  • Eitemau eraill na allwch eu rhoi yn y biniau
    • Cynwysyddion nwy
    • Caniau ocsid nitraidd

Mae hyn yn gallu achosi tannau

Mae gwaredu fêps ac eitemau eraill sy’n cynnwys batris yn anghywir wedi achosi tannau ar draws y sector gwastraff dros y misoedd diwethaf, felly byddwch yn hynod ofalus. Cafodd tân bychan ei gynnau ar Lôn y Bryn yn ddiweddar oherwydd batri a gafodd ei daflu i ganol gwastraff cyffredin. Rydym yn amau’n gryf ei fod yn fatri o fêp mawr y gellir ei ailwefru.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar fêps mewn ffordd gyfrifol

Mae unrhyw beth sydd â phlwg, batri neu gebl nad yw’n cael ei ailgylchu’n briodol yn peri risg i bobl ac adeiladau, felly sicrhewch nad ydych yn rhoi’r eitemau hyn yn y bin.

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Ni ddylech roi fêps untro na fêps aildrydanadwy mewn unrhyw finiau gwastraff na chynwysyddion ailgylchu ymyl palmant, gan y gallai hynny roi pobl mewn perygl.  Pe baent yn cael eu gwasgu neu eu difrodi yn y lorïau biniau neu’r canolfannau ailgylchu, fe allai ddechrau tân, a all fod yn beryglus iawn.”

Beth i’w wneud gyda fêps a ddefnyddiwyd

Gellir derbyn fêps fel Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (CTEG) a gellir eu gwaredu mewn cynhwysydd Peiriannau Domestig Bychain ym mhob un o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn Wrecsam.

Mae nifer o siopau ac archfarchnadoedd sy’n gwerthu fêps hefyd yn gadael i chi eu dychwelyd a’u hailgylchu yno.  Ymwelwch â thudalen Recycle Your Electricals recycling locator a dewiswch ‘vapes’ yn y gwymplen i weld ble fedrwch chi eu gwaredu.

Beth i’w wneud gyda batris

Gallwch ailgylchu pob math o fatris yn y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam – hyd yn oed batris car!

Ond os mai ond batris arferol y cartref hoffech eu hailgylchu, ac os yw’n fwy hwylus i chi, dylech gael yr opsiwn i’w hailgylchu yn eich siop leol hefyd.

Mae hyn oherwydd, ers Chwefror 2010, mae’n rhaid i siopau sy’n gwerthu mwy na 32kg o fatris y flwyddyn (tua 345 paced o 4 o fatris AA) ddarparu cyfleusterau ailgylchu yn y siop…felly mae’n rhaid i’r holl archfarchnadoedd a manwerthwyr ddarparu hyn.

Eitemau eraill na allwch eu rhoi yn y biniau

Cynwysyddion nwy

Gall caniau nwy fod yn beryglus, ac felly ni ddylid eu rhoi yn eich bin sbwriel. Os oes gennych un, mae’n well holi’r cwmni ble y gwnaethoch ei brynu, gan y bydd yn bosib iddynt eu hail-lenwi neu ei waredu i chi.

Mae’n bosib ailgylchu poteli nwy llai nad oes modd eu hail-lenwi (a ddefnyddir ar gyfer gwresogydd coginio bach) gyda’r plastigion a’r caniau a gaiff eu casglu yn ymyl palmant DIM OND os nad oes hylif neu nwy ynddynt.

Os oes gennych chi unrhyw beth ar ôl ynddynt, bydd yn rhaid i chi fynd â nhw i ganolfan ailgylchu Plas Madog neu Brymbo (Y Lodge). Ni allwn dderbyn caniau nwy yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn yn sgil cyfyngiadau trwydded.

Caniau ocsid nitraidd

Os oes gennych chi ganiau ocsid nitraidd, ewch â nhw i ganolfan ailgylchu Plas Madog neu Brymbo (Y Lodge). Ni allwn dderbyn caniau ocsid nitraidd yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn yn sgil cyfyngiadau trwydded.

I gael mwy o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu

Dweud eich dweud ar Drywydd Trwsio ac Ailddefnyddio i Gymru – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:fêps
Rhannu
Erthygl flaenorol Paratowch ar gyfer Wrexfest yn Tŷ Pawb! Paratowch ar gyfer Wrexfest yn Tŷ Pawb!
Erthygl nesaf eich llais Eich Llais. Eich Penderfyniad

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English