Mae’r argyfwng costau byw yn gwneud 2024 yn flwyddyn heriol i lawer o bobl. Mae ymchwil Financial Lives yr FCA wedi datgelu bod 14.6 miliwn o bobl yn ei chael hi’n anodd yn ariannol. Mae hyn yn gadael defnyddwyr yn agored i sgamiau fel twyll ffioedd benthyca, lle mae “benthyciwr” yn gofyn iddyn nhw dalu ffi ymlaen llaw ond byth yn gwneud y taliad.
Heddiw, mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen i chi gymryd eiliad i feddwl cyn benthyg arian.
I osgoi twyll, dylech ystyried y tri pheth yma cyn i chi wneud unrhyw benderfyniad:
- Ydyn nhw wedi galw’n ddigroeso?
- Ydyn nhw’n gofyn i chi dalu ffi ymlaen llaw?
- Ydyn nhw’n rhoi pwysau arnoch chi i dalu’n gyflym neu mewn ffordd anarferol?
Ydi hyn yn canu cloch? STOPIWCH ac amddiffynnwch eich hun rhag twyll ffioedd benthyca.
Gallwch wirio a yw cwmni sy’n cynnig benthyciad yn un dilys drwy edrych ar y gofrestr gwasanaethau ariannol yma.
Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Wrth i fwy a mwy o bobl ei chael hi’n anodd yn ariannol oherwydd costau byw uchel, mae yna gynnydd pryderus yn nifer y bobl sy’n twyllo ac yn manteisio ar y bobl fwyaf diamddiffyn.
“Byddwch yn ofalus ac os ydych chi’n ystyried cael benthyciad ewch at fenthyciwr cofrestredig neu ystyriwch ddefnyddio Undeb Credyd fel yr un yn Wrecsam.
Gallwch gysylltu â’r Undeb Credyd ar-lein. Cambrian Credit Company (DOLEN)
You can contact the Credit Union online.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Ydych chi’n fusnes yn Sir Wrecsam?