Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n fusnes yn Sir Wrecsam?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ydych chi’n fusnes yn Sir Wrecsam?
Busnes ac addysg

Ydych chi’n fusnes yn Sir Wrecsam?

Diweddarwyd diwethaf: 2024/09/02 at 3:09 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
A small, informal business meeting.
RHANNU

Siwrnai ddysgu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol am ddim…

Ydych chi’n gwybod beth ydi Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a pham ei fod yn bwysig?

Ydych chi’n ystyried sut i gynnwys Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol yn eich busnes chi? Hoffech chi ddysgu gan fusnes sydd eisoes wedi dechrau ei siwrnai’n llwyddiannus?

Os felly, rydym ni’n falch o allu gwahodd busnesau i ddigwyddiad arbennig am ddim ar Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae’r siwrnai ddysgu yn cael ei chynnal gan Aico, arweinydd ym Marchnad Diogelwch Cartref Ewropeaidd a sefydlwyd yn y DU, sydd yn arloesi technolegau newydd, ac yn cynnig larymau o safon uchel. Cynhelir y digwyddiad yng nghyfleuster Aico yng Nghroesoswallt ar 12 Medi 2024 rhwng 10am – 1pm.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Bydd Siwrnai Ddysgu Wrecsam yn cynnwys:

  • Cludiant ar fws am ddim o ystâd ddiwydiannol Wrecsam i gyfleuster Aico yng Nghroesoswallt.
  • Y cyfle i ddysgu am siwrnai Aico, clywed sut mae gwerthoedd y busnes wedi cael eu cynnwys yn yr hyn maen nhw’n ei wneud a pha mor bwysig ydi cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol iddyn nhw.
  • Taith o amgylch y cyfleuster i helpu i ddysgu am weithredoedd busnes Aico o ddydd i ddydd.
  • Lluniaeth ysgafn amser cinio gan roi cyfle i’r rhai sy’n bresennol i rwydweithio gyda Mentrau Cymdeithasol yn ogystal â busnesau.

Mae hwn yn gyfle gwych i rwydweithio gyda busnesau sydd wedi’u lleoli ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam sydd yn ystyried cynnwys Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol yn rhan o’u busnes.

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi, Busnes a Thwristiaeth Cyngor Wrecsam: “Dyma gyfle gwych i fusnesau yn y fwrdeistref sirol i ddysgu mwy am Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.

“Bydd y siwrnai ddysgu yn rhoi cipolwg hynod ddifyr ar weithrediadau dydd i ddydd a sut mae gwerthoedd wedi’u sefydlu, eu datblygu, eu gweithredu a’u cynnal; a rhannu’r arferion gorau gyda’r rhai sy’n bresennol, y gellir eu cymryd o’r cyfarfod a’u defnyddio’n lleol.”

Mae llefydd yn brin, ac os hoffech chi ymuno â ni, e-bostiwch Tîm Busnes a Buddsoddi.

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam 2024 – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 27 Medi

Rhannu
Erthygl flaenorol Bike Trail Llwybr Beicio Canol y Ddinas ar gyfer unigolion o dan 16
Erthygl nesaf Merchant Navy Rydym ni’n chwifio’r Lluman Coch eto ar Ddiwrnod y Llynges Fasnachol

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!

Gorffennaf 11, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg

Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith

Gorffennaf 4, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?

Mehefin 30, 2025
50
Busnes ac addysg

Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd

Mehefin 30, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English