Gofynnir i breswylwyr yn Wrecsam sydd â system larwm personol Teleofal Delta Wellbeing i fod yn ymwybodol o sgam sydd wedi’i ddwyn i’n sylw ni.
Mae’r sgamiwr yn gofyn i ddefnyddwyr drosglwyddo arian ar y ffôn i brynu systemau newydd yn barod ar gyfer y newid i wasanaethau digidol a gyhoeddir gan Ofcom.
Mae’r system sy’n cael ei defnyddio yn Wrecsam yn gydnaws â’r gwasanaethau digidol newydd a dylai defnyddwyr anwybyddu’r galwadau ffôn neu’r negeseuon e-bost. Bydd cynllun uwchraddio treigl arfaethedig yn cael ei weithredu gan Gyngor Wrecsam yn y dyfodol, a byddwn ni’n cysylltu â defnyddwyr ar ffurf llythyr cyn i hyn ddigwydd.
Gall defnyddwyr fod yn dawel eu meddwl mai Cyngor Wrecsam neu Delta Wellbeing fydd yn cysylltu â nhw am eu gwasanaeth nawr neu yn y dyfodol.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch