Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 – beth am siarad am newid hinsawdd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 – beth am siarad am newid hinsawdd
ArallBusnes ac addysg

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 – beth am siarad am newid hinsawdd

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 9, 2023 11:28 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wythnos Hinsawdd Cymru 2023
RHANNU

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn digwydd ar 4-8 Rhagfyr ac mae’n cynnig cyfle i ni gynnal sgwrs genedlaethol ar newid hinsawdd.

Mae’r thema yn un o’r cwestiynau pwysicaf sy’n wynebu ein cymdeithas heddiw…sut ydym yn mynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg?

Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn cynnwys cynhadledd ar-lein 5 diwrnod yn edrych ar effeithiau newid hinsawdd ar wahanol bobl, grwpiau, sefydliadau a lleoliad, a bydd yn edrych ar sut mae’r manteision sy’n gysylltiedig â pholisïau hinsawdd newydd yn cael eu dosbarthu’n deg ar draws cymdeithas.

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 - beth am siarad am newid hinsawdd

Ochr yn ochr â’r gynhadledd, cynhelir cyfres o sgyrsiau hinsawdd ledled Cymru i gynnwys grwpiau cymunedol ac aelodau o’r cyhoedd i edrych ar y cysylltiadau rhwng atebion ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd a’r argyfwng costau byw.

Nod y sgyrsiau hyn fydd annog sgyrsiau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol gyda grwpiau cymunedol, unigolion, gweithwyr cyflogedig a hunangyflogedig ledled Cymru am sut gallwn fynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg.

Gall unrhyw un sy’n mynd i wefan Wythnos Hinsawdd Cymru gofrestru ar-lein i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen a mynychu’r gynhadledd ar-lein.

Mae’r wefan hefyd yn egluro sut i gyflwyno datganiad o ddiddordeb i gynnal sesiwn yn ystod y gynhadledd ar-lein neu i gynnal digwyddiad Sgwrs Hinsawdd yn cynnwys cymunedau ac unigolion mewn sgyrsiau am newid hinsawdd. Gellir cynnal Sgyrsiau Hinsawdd unrhyw bryd rhwng 4 Rhagfyr, 2023 a 31 Ionawr, 2024, gydag arian Llywodraeth Cymru ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Mae Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn gyfle i edrych ar greu atebion i’r problemau niferus rydym yn eu hwynebu o ran newid hinsawdd. Rydym bob amser wedi pwysleisio bod angen ymdrech tîm i fynd i’r afael â’r problemau hyn ac mae’n gyfle i fod o amgylch pobl eraill sydd eisiau gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Ceisiwch gymryd rhan yn beth bynnag y gallwch.”

Gallwch hefyd ddilyn #WythnosHinsawddCymru2023 i gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy gydol yr wythnos.

Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Wythnos Hinsawdd Cymru  

Disgyblion Wrecsam yn cymryd cam ymlaen ar gyfer Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:climatecymruhinsawddwales
Rhannu
Erthygl flaenorol Rhybudd am Sgam - Preswylwyr Teleofal wedi’u targedu i uwchraddio eu system  Rhybudd am Sgam – Preswylwyr Teleofal wedi’u targedu i uwchraddio eu system 
Erthygl nesaf Annual Service of Remembrance Seiren Cyrch Awyr i Seinio Am 11am Dydd Sadwrn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
North Wales Police
Arall

Cefnogi Ymgyrch Spotlight sy’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English