Ym mis Mai eleni, lansiodd WRAP ei hymgyrch lleihau gwastraff bwyd ‘Guardians Of Grub’ sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r £3 biliwn o fwyd a gaiff ei daflu yn y farchnad lletygarwch ac mewn allfeydd gwasanaeth bwyd.
Rŵan bod mis Medi wedi cyrraedd, mae WRAP yn parhau â’r neges hon drwy ofyn i fusnesau Sefyll Dros Fwyd ac ymuno i arbed ein planed o broblem gwastraff bwyd.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym yn annog holl allfeydd bwyd a busnesau Wrecsam i ystyried ymgyrch genedlaethol WRAP, ‘Guardians Of Grub’, sy’n rhoi cyngor ar sut y gallant atal gwastraff bwyd. Mae mis Medi yn fis Sefyll Dros Fwyd hefyd, felly dyma’r amser perffaith i gymryd rhan.”
Mae’r fidio hwn gan WRAP yn dangos sut y gall rheolwyr, gweinyddion, cogyddion, porthorion cegin a mwy chwarae rhan i atal gwastraff bwyd.
Mae’n neges glir i fusnesau ei hystyried, ond mae’n un y gellir ei hychwanegu i’n bywydau ni gartref hefyd. Mae rhai gwastraff bwyd yn anochel – esgyrn, plicion neu fagiau te er enghraifft…ac rydyn ni’n dod yn llawer gwell am ailgylchu’r rhain yn ein biniau bwyd yn Wrecsam.
Ond efallai y gallwn ni wneud yn well gyda rhai pethau eraill? Os oes gennych chi ffrwythau neu lysiau heb eu bwyta o hyd, efallai eich bod chi’n prynu gormod yn y lle cyntaf. Neu efallai y gallech chi rewi’r llysiau ychwanegol i’w defnyddio rywbryd eto?
Mae prynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch yn ffordd wych y gallwn i gyd leihau ein gwastraff bwyd, sydd hefyd yn golygu bil siopa rhatach! 🙂
Ychwanega’r Cynghorydd Bithell, “Yn Wrecsam, mae mwy o bobl yn dechrau ailgylchu eu gwastraff bwyd, sy’n newyddion gwych. Gyda biniau a bagiau bwyd i’w cael am ddim, mae pobl yn dechrau ailgylchu eu gwastraff bwyd.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN