I gofio Diwrnod y Cadoediad byddwn yn seinio seiren cyrch awyr am 11am ddydd Llun 11 Tachwedd.
Mae’n rhan bwysig o’r coffâd ac ers blynyddoedd bellach mae pobl wedi dod i arfer â chlywed y seiren. Ond gwyddom y gall achosi trallod i rai pobl.
Rydym am osgoi hynny cymaint ag sy’n bosibl felly rydym yn gobeithio y gallwch chi ledaenu’r neges hon i unrhyw un y gwyddoch a allai gael ei effeithio gan sŵn y seiren fel eu bod yn gallu paratoi o flaen llaw.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Mae’r seiren yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae’n bosibl ei chlywed mor bell â 2.5 milltir o ganol y dref.
Mae manylion pellach am drefniadau Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad ar gael yma.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD