Bydd seiren yr Ail Ryfel Byd yn canu yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam am 10:00am ddydd Sadwrn, 10 Tachwedd, fel symbol o barch tuag at yr holl bobl a fu’n gwasanaethu dros eu gwlad yn y lluoedd arfog.
Bydd y seiren hefyd yn canu ar ddechrau’r digwyddiad ar Sgwâr y Frenhines, lle y gallwch weld Ffos Symudol ac Awyren Ddwbl y Rhyfel Byd Cyntaf – un o awyrennau Bristol Scout Static gwreiddiol y Rhyfel Byd Cyntaf!
Bydd y ffos yn gyfle i chi gael cipolwg ar fywyd yn y ffosydd yn ystod y Rhyfel Mawr.
Mae llawer o gydrannau’r awyren yn rhai gwreiddiol, a hon yw’r unig un ar ôl yn y byd sy’n dal yn hedfan.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac ymlaen rhwng 10am a 4pm