A ydych yn adnabod unigolyn ifanc a fyddai â diddordeb mewn cael dweud eu dweud am bethau sy’n effeithio arnyn nhw, eu ffrindiau a’u teuluoedd?
Yna dylech eu hannog i ymuno â Senedd yr Ifanc – Senedd Ieuenctid Wrecsam, grŵp o bobl ifanc brwdfrydig llawn cymhelliant sy’n edrych am aelodau newydd.
Mae’r Senedd yn cynnwys pobl ifanc 11- 25 oed sydd â chysylltiadau gyda Wrecsam.
Mae’n gweithio i gasglu barn pobl ifanc ar faterion penodol sy’n effeithio ar bobl ifanc Wrecsam.
Ar hyn o bryd eu blaenoriaeth yw’r “amgylchedd” ac maent wedi bod yn hyrwyddo gofalu amdano yn ystod y pandemig.
Edrychwch ar y fideo hwn a gynhyrchwyd yn annog pobl ifanc i beidio â thaflu ysbwriel a sut i osgoi defnyddio plastig.
Mae Senedd yr Ifanc yn cyfarfod ar ddydd Llun olaf bob mis yn Neuadd y Dref Wrecsam; mae’r cyfarfodydd yn strwythuredig gydag adrannau ffurfiol ac anffurfiol. Maent wedi eu cynnal ar-lein dros y misoedd diwethaf ond maent yn gobeithio cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb pan fydd y cyfyngiadau Covid yn caniatáu.
Am wybod mwy? Yna cysylltwch â youngvoices@wrexham.gov.uk i gyfrannu at ddyfodol Wrecsam ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Dywedodd y Cyng. John Pritchard, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Mae Senedd yr Ifanc yn grŵp ysbrydoledig o bobl ifanc sy’n sicrhau ein bod i gyd yn gwrando ar safbwyntiau pobl ifanc. Eu dyfodol nhw sy’n bwysig felly os ydych yn adnabod rhywun a fyddai’n hoffi ymuno â nhw dylech eu hannog i gysylltu.”
Senedd yr Ifanc – Ydych eisiau cael dweud eich dweud? A hoffech chi wneud gwahaniaeth?
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN